Mae Trefor Lloyd Hughes, cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi marw yn 77 oed yn dilyn salwch byr.
Roedd y cyn-filwr pêl-droed hefyd yn ymwneud yn helaeth â gwleidyddiaeth leol fel cynghorydd sir a chyn-faer Caergybi.
Roedd Mr Lloyd Hughes yn gefnogwr brwd o bêl-droed llawr gwlad a threuliodd gyfnod fel ysgrifennydd Cynghrair Ynys Môn, Cynghrair Cymru (Welsh Alliance) a Chymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru.
Mewn datganiad teyrnged, dywedodd llefarydd ar ran CBDC: "Bob tro yn barod i siarad, bob tro yn gwrtais a diymhongar roedd yn hynod o boblogaidd gyda staff y gymdeithas."
"Roedd ei ddylanwad ar draws pel droed Cymru yn enfawr ar y lefel llawr gwlad ac ar y lefel rhyngwladol ble pan roedd eraill yn amau fe roddodd gefnogaeth cant y cant I Chris Coleman pan yn lywydd."
Bu ar daith bêl-droed unigryw wrth iddo fynd o wirfoddolwr 15 oed gyda'i dîm pentref lleol, Bodedern.
Yn ddiweddarach daeth yn gynrychiolydd Cynrychiolydd Cymdeithas Ardal bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru ar gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW).
Etholwyd Trefor yn Llywydd CBDC yn 2012, ar ôl gwasanaethu’n flaenorol fel trysorydd ac uwch is-lywydd.
Treuliodd chwe blynedd hefyd fel cynrychiolydd pêl-droed rhyngwladol swyddogol UEFA - rôl a aeth ag ef i gaeau pêl-droed ledled y byd - cyn sefyll lawr yn 2019. Cafodd ei anrhydeddu gydag OBE yn 2016 am ei wasanaeth teilwng i bêl-droed.
Dyweddod arweinydd Cyngor Ynys Môn, Gary Pritchard: "Treuliodd Trefor ei oes yn gwasanaethu ei gymuned yng Nghaergybi fel Cynghorydd Tref a Chynghorydd Sir, ond ei gariad cyntaf heb os oedd pêl-droed."
"Ar lefel bersonol, byddaf yn colli ein sgyrsiau hir am y gêm brydferth. Ni lwyddon ni erioed i drafod gwleidyddiaeth am yn hir cyn ein bod yn troi at obeithion timau pêl-droed yr ynys neu hynt a helynt y tîm cenedlaethol."
"Roedd yn uchel ei barch, nid yn unig yng Nghaergybi ac Ynys Môn, ond ledled Cymru a thu hwnt. Rwy’n cydymdeimlo’n ddwys gyda Janet ei wraig a’r teulu oll yn y cyfnod trist yma."
Ychwanegodd MS Ynys Môn a a chyn-arweinydd y cyngor, Llinos Medi: "Mae Caergybi, Ynys Môn a Chymru wedi colli cawr o ddyn.".
"Yn bendant roedd gan Gaergybi lais cryf pob tro roedd Trefor yn yr ystafell. Roedd yn gyfaill annwyl gyda chyngor doeth a byddaf yn colli ein sgyrsiau direidus a heriol gyda gwên. Braint o’r mwyaf oedd cael adnabod person mor arbennig."

Etholwyd Mr Lloyd Hughes ar Gyngor Môn yn 1996 ac eto yn 2008 a bu'n gynrychioli Plaid Cymru yn ward Ynys Gybi hyd nes ei farwolaeth ddydd Iau.
Yn ystod y cyfnod yma, bu iddo wasanaethu fel cadeirydd y cyngor sir a chadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.
Yn gyn-yrrwr ambiwlans, roedd Trefor hefyd yn cynrychioli ward Maeshyfryd ar Gyngor Tref Caergybi ac roedd wedi gwasanaethu fel Maer y dref yn flaenorol. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Môn yn y 1990au cynnar.
Derbyniodd anrhydedd yr MBE am wasanaethau i bêl-droed lleol yn 2016 ac roedd yn aelod hynod o falch o Orsedd yr Eisteddfod ers ymuno yn 2007.
Dyweddod Dylan J Williams, prif weithredwr Cyngor Môn: "Roedd Trefor yn gymeriad hynod ac yn ddyn pêl-droed go iawn a adawodd ei farc ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol."
"Fel gwleidydd, roedd yn brofiadol, craff a bob amser yno i roi cyngor a helpu’r aelodau etholedig iau. Bu'n gwasanaethu ei gymuned, y Cyngor Sir, pêl-droed lleol a Chymru gyda rhagoriaeth am flynyddoedd lawer."
"Bydd marwolaeth Trefor heb os yn golled sylweddol, yn bennaf i’w deulu a’i ffrindiau ond hefyd i Gaergybi, Ynys Môn a Chymru gyfan. Roedd yn ŵr bonheddig go iawn, bob amser yn gefnogol a gydag ymagwedd bositif ar fywyd."
"Mae fy meddyliau a'm cydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau Trefor."
Dyweddod arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Doedd neb cweit fel Trefor. Roedd yn gynrychiolydd penigamp i’w gymuned, fel Cymro i’r carn adawodd ei farc drwy wasanaeth i’w wlad, yn arbennig drwy ei gariad a’i ymroddiad at bêl-droed."
"Gwnaiff Caergybi, Môn, Cymru a phawb oedd yn ddigon ffodus i’w adnabod fyth ei anghofio."


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'
Arestio dyn ar amheuaeth o droseddau hanesyddol