
Bydd trefn newydd ar gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd wrth i’r mudiad lansio gŵyl saith diwrnod ar Ynys Môn yn 2026.
Cyhoeddwyd bwriad yr Urdd Gobaith Cymru i ehangu’r brifwyl o chwech i saith diwrnod, mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd.
Yn dilyn cyfres o eisteddfodau cylch a rhanbarth yn y gwanwyn, cynhelir yr Eisteddfod ar gae Sioe Môn ger Gwalchmai o dydd Sadwrn 23 Mai tan dydd Gwener 29 Mai.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi gweld yr Urdd yn cydweithio gydag aelodau, aelwydydd, ysgolion a phwyllgorau lleol i sicrhau bod y trefniadau newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i ymwneud â’r Gymraeg drwy’r celfyddydau.
Mae trefn newydd cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd fel â ganlyn:
- Dydd Sadwrn: Dysgwyr a Dawnsio Disgo
- Dydd Sul: Aelwydydd
- Dydd Llun: Uwchradd Bl. 10 a dan 19 oed, ADY
- Dydd Mawrth: Uwchradd Bl. 7-9 ac offerynnol Bl. 10 a dan 25 oed
- Dydd Mercher: Adrannau, uwchradd offerynnol Bl. 7-9
- Dydd Iau: Cynradd (cân actol a Pherfformiad theatrig i ysgolion ac adrannau)
- Dydd Gwener: Cynradd
Meddai Llio Maddocks, cyfarwyddwr yr ŵyl: "Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl sy’n esblygu ac yn gwrando ar ein haelodau."
"Felly i sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn fudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, rydym wedi cydweithio â’r cyhoedd i greu’r amserlen gystadlu newydd hon."
"Mae ymgynghori a chydweithio gyda channoedd o aelodau a hyfforddwyr wedi sicrhau bod y trefniadau newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i gymryd rhan, a diolchwn i’r holl bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad cenedlaethol yn enwedig."
"Eu gŵyl nhw ydi Eisteddfod yr Urdd, ac mae derbyn eu mewnbwn i’r broses wedi bod yn amhrisiadwy. Gobeithiwn fydd y datblygiad yma’n arwain at fwy fyth yn ymwneud â’r Gymraeg a’r celfyddydau, a hynny drwy eu perthynas â’r Urdd."
Mae dros 400 o gystadlaethau yn cael eu cynnal yn Eisteddfod yr Urdd erbyn hyn, ac mae cystadlaethau newydd yr ŵyl yn amrywio o rai i gorau ac unawdwyr i fonolog a dawns.
Roedd 119,593 o gofrestriadau i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, sy’n fwy nag erioed o’r blaen, ynghyd â chynnydd sylweddol (o 42%) yn y nifer o ddysgwyr Cymraeg ifanc yn cymryd rhan yn yr ŵyl o gymharu â 2024 ym Meifod ym Mhowys.
Er mwyn dathlu dyfodiad yr ŵyl i Fôn, bydd Gŵyl Groeso Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 20 Medi. Yn dilyn gorymdaith trwy dref Llangefni, cynhelir prynhawn o hwyl a gig ym Mhafiliwn Cae Sioe Môn, gyda pherfformiadau gan Celt, Fleur de Lys a Cordia.
Mae rhestr testunau Eisteddfod yr Urdd bellach wedi'i gyhoeddi ac mae ar gael trwy wefan Urdd Gobaith Cymru, lle mae'r amserlen gyfan ar gyfer cystadlu ar gael hefyd.