Mae Y Gân wedi ennill Cân i Gymru 2026 ar Faes Sioe Môn ym Mona.
Cafodd y gân ei dewis yn fuddugol trwy bleidlais gyhoeddus gan wylwyr S4C heno yn ystod y sioe ar nos Sadwrn.
Dyma’r ail gân gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni, gyda Sara Owen yn perfformio.
Fe gollodd Emlyn 3 ffrind yn sydyn iawn ac roedd hynny yng nghefn ei feddwl wrth ysgrifennu geiriau’r gân.
Mae'r cyfansoddwyr yn ennill tlws Cân i Gymru a'r wobr gyntaf o £5,000.
Meddai Geth: "Diolch yn fawr iawn i chi. Fel cerddor o Ynys Môn, mae hwn yn golygu’r byd i fi. Diolch yn fawr i’r ddau yma, diolch i’r holl deulu a diolch i Sara am ganu hi mor wych."
Ychwanegodd Emlyn bod perfformiad Sara yn “anhygoel”.
Y Gwanwyn Bach gan Rhydian Meilir a Myrddin ap Dafydd oedd yn ail ac yn ennill gwobr o £3,000 a Storm Heno gan Rhodri Lloyd Evans ddaeth yn drydydd ac yn derbyn £2,000.

Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr oedd yn cadeirio panel y rheithgor.
Yn ymuno ag Osian ar y rheithgor eleni, roedd Barry ‘archie’ Jones o’r band Celt, y gantores a'r gyfansoddwraig, Mali Hâf, y cyflwynydd a’r DJ radio, Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard.
Dyma oedd y gystadleuaeth Cân i Gymru gyntaf i gael ei chynnal ar Ynys Môn mewn degawd.


Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi
Wylfa SMR: gweinidogion yn targedu'r buddion mwyaf