Mae Cyngor Ynys Môn yn parhau i wella ansawdd ac effeithlonrwydd ynni ei stoc tai
Mae Gwasanethau Tai y cyngor sir yn rheoli dros 4,000 o gartrefi gyda'r gyrfan uchaf yng Ngahergybi (30%) a Llangefni (14%).
Yn 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chanllawiau SATC (Safonau Ansawdd Tai Cymru) diweddaraf ar gyfer ansawdd, diogelwch, perfformiad ynni ac allyriadau carbon cartrefi cymdeithasol.
Ar draws Cymru, mae angen i bron i chwarter miliwn o gartrefi fodloni'r safonau gofynnol erbyn 2034, gan sicrhau eu bod yn ddiogel, wedi'u cynnal a'u cadw'n dda, yn fforddiadwy i'w gwresogi ac wedi'u cynllunio i gefnogi lles.
Mae mesurau ychwanegol yn cynnwys systemau awyru gwell i atal damp a llwydni, larymau mwg yn y prif ystafelloedd byw a gorchuddion llawr addas pan fydd tenantiaid yn newid eiddo.
Yn lleol, cafodd 499 o systemau solar pv a storio batris eu gosod er mwyn lleihau costau ynni ac allyriadau carbon y llynedd. Hefyd, cafodd 456 o geginau newydd eu ffitio yn ogystal â gwelliannau cysylltiedig.

Mae mwy o waith gosod ynni adnewyddadwy wedi ei drefnu ar gyfer 2026 yn Amlwch, Llannerchymedd, Bodedern, Y Fali a Chaergeiliog; ac mae'r rhaglen fuddsoddi ar gyfer 2026/2027 yn cynnwys gwaith cynnal a chadw a diweddaru effeithlonrwydd ynni mewn 20 o gartrefi ychwanegol.
Mae'r cyngor hefyd yn ceisio sichrau bod mwy o gartrefi fforddiadwy ar gael gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl leol.
Fel yr oedd pethau'n sefyll yn Chwefror 2026, roedd 941 cais actif ar y gofrestr dai, gydag ymgeiswyr yn gorfod disgwyl cyfartaledd o 448 diwrnod.
Yn ystod 2025-26, mae 20 tŷ cyngor blaenorol wedi dod yn ôl i ddefnydd - yn cynnwys rhai llety cymorth dros dro ar gyfer pobl sy'n wynebu digartrefedd - ac mae eiddo newydd hefyd wedi'u prynu.
Cafodd 267 o gartefi eu dyrannu gyda 93% yn mynd i ymgeiswyr gyda chysylltiad lleol ag Ynys Môn yn ystod 2024-25.
Mae 239 o gartrefi wedi eu dyrannu, gyda 94% ohonynt yn mynd i ymgeiswyr gyda chysylltiad lleol, yn ystod 2025-26 hyd at ddiwedd yr trydydd chwarter.
Mae cartrefi'n cael eu dyrannu drwy system fandio sy'n seiliedig ar yr angen am dŷ, ac mae'n amrywio o flaenoriaeth brys i band 3, ac mae ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn polisi dyrannu'r cyngor.

Dyweddod Ned Michael, pennaeth gwasanaeth tai Cyngor Môn: "Wrth cydweithio gyda'n fforwm tenantiaid, rydym wedi ymrwymo i wneud gwelliannau ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn ar gyfer ein tenantiaid."
"Mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn ein diweddariadau ynni i leihau costau i aelwydydd, gwella ansawdd ein cartrefi a sicrhau bod eiddo yn cael eu hail-osod yn gyflym i'r rheini sydd eu hangen fwyaf."
"Mae'r galw am dai cymdeithasol dal yn uchel iawn, ac felly rydym yn gweithio i gynyddu ein cyflenwad lle bo'n bosibl, gan ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd effeithlon, a sicrhau bod tai yn cael eu dyrannu'n deg ac yn unol â'r angen am dai a chysylltiad lleol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, sy'n deilio portffolio tai: "Mae tai o ansawdd yn hollbwysig wrth gefnogi cymunedau iach a chynaliadwy."
"Mae'r cynnydd rydym wedi ei grybwyll uchod yn dangos ymrwymiad cryf y cyngor i ddarparu tai diogel, modern a fforddiadwy ar gyfer pobl leol ledled Ynys Môn."
"Mae blaenoriaethu ymgeiswyr gyda chysylltiadau lleol yn helpu i gryfhau ein cymunedau a sicrhau bod y buddion a ddaw wrth fuddsoddi yn aros yn lleol."
"Gyfochr â hyn, bydd parhau i weithio ar effeithlonrwydd ynni yn cefnogi ein amcan ehangach i leihau allyriadau carbon a symud at ddyfodol sero net."
"Rydym wedi ymrwymo i wneud buddsoddiadau parhaus, hirdymor yn ein tai a'n gwasanaethau, lle bo'n bosibl, i sicrhau bod trigolion yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael cefnogaeth ac yn falch o'r cartref a'r broydd lle maen nhw'n byw."


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi