Elin Fflur: O'r Llwyfan i'r Llywydd

Monday, 25 May 2026 11:35

By Ystafell Newyddion MônFM

Elin Fflur yw llywydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Y canwr a'r darlledwr oedd y prif ser ar noson 'Mawrion Môn' yn Gwyl Triban, yn cynnwys rhestr o fandiau ac artistiaid o'r ynys.

Mae cysylltiadau Elin ag Eisteddfod yr Urdd yn dyddio'n ôl dros 30 o flynyddoedd - ym 1995, gwnaeth ei hymddangosiad cystadleuol cyntaf mewn cystadleuaeth Cerdd Dant ar lwyfan y Pafiliwn yng Nghilwendeg, Sir Benfro.

Meddai Elin: "Cefais fy magu ym mhentref Dwyran ar Ynys Môn, pentref bach ddim yn bell o draeth Llanddwyn, cyn symud i Lanfairpwll yn 12 oed."

"Y teimlad yna o gymuned sy’n fy nharo i gyntaf wrth feddwl am yr Urdd. Roedd dod at ein gilydd yn blant i ymarfer efo côr yr ysgol yn gyfnod bendigedig."

"Mae canu yn dwlsyn mor bwerus. Does dim teimlad tebyg i ganu mewn côr, a’r môr o leisiau o’n cwmpas, a dwi’n methu hynny yn fawr. Wedyn y tripiau ar y bws, cyrraedd y maes, y bocs bwyd. Mae’r profiadau hynny wedi creu atgofion hyfryd."

"Roedd mam yn arwain côr yr ysgol hefyd, felly profiad eithaf unigryw i ni’n dwy, dwi’n amau. Ac er bod hynny yn gallu bod yn ‘embarrassing’ iawn i blentyn naw oed ar adegau, roeddwn i’n gweld y gwaith a’r ymroddiad o’r ddwy ochr – o’n safbwynt ni fel plant a safbwynt mam fel hyfforddwraig."

"Mi gawson ni fel pobol ifanc yn yr ysgol brofiadau i’w trysori."

Roedd maes sioe Mona ger Gwalchmai, cartref gŵyl eleni, hefyd yn lleoliad ar gyfer Cân i Gymru ym mis Chwefror.

Mae Elin, a berfformiodd y gân fuddugol yn 2002, Harbwr Diogel, wedi cyflwyno'r gystadleuaeth gân bob blwyddyn ers 2011.

 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Scratch, Crackle, and Pop!

    7:00pm - 9:00pm

    Tom Cooke delves into his Vinyl collection every Monday evening on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'