Elin Fflur yw llywydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Y canwr a'r darlledwr oedd y prif ser ar noson 'Mawrion Môn' yn Gwyl Triban, yn cynnwys rhestr o fandiau ac artistiaid o'r ynys.
Mae cysylltiadau Elin ag Eisteddfod yr Urdd yn dyddio'n ôl dros 30 o flynyddoedd - ym 1995, gwnaeth ei hymddangosiad cystadleuol cyntaf mewn cystadleuaeth Cerdd Dant ar lwyfan y Pafiliwn yng Nghilwendeg, Sir Benfro.
Meddai Elin: "Cefais fy magu ym mhentref Dwyran ar Ynys Môn, pentref bach ddim yn bell o draeth Llanddwyn, cyn symud i Lanfairpwll yn 12 oed."
"Y teimlad yna o gymuned sy’n fy nharo i gyntaf wrth feddwl am yr Urdd. Roedd dod at ein gilydd yn blant i ymarfer efo côr yr ysgol yn gyfnod bendigedig."

"Mae canu yn dwlsyn mor bwerus. Does dim teimlad tebyg i ganu mewn côr, a’r môr o leisiau o’n cwmpas, a dwi’n methu hynny yn fawr. Wedyn y tripiau ar y bws, cyrraedd y maes, y bocs bwyd. Mae’r profiadau hynny wedi creu atgofion hyfryd."
"Roedd mam yn arwain côr yr ysgol hefyd, felly profiad eithaf unigryw i ni’n dwy, dwi’n amau. Ac er bod hynny yn gallu bod yn ‘embarrassing’ iawn i blentyn naw oed ar adegau, roeddwn i’n gweld y gwaith a’r ymroddiad o’r ddwy ochr – o’n safbwynt ni fel plant a safbwynt mam fel hyfforddwraig."
"Mi gawson ni fel pobol ifanc yn yr ysgol brofiadau i’w trysori."
Mae Elin, a berfformiodd y gân fuddugol yn 2002, Harbwr Diogel, wedi cyflwyno'r gystadleuaeth gân bob blwyddyn ers 2011.


Dafydd yn ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Urdd 2028 yn dod i Gaernarfon
Eisteddfod yr Urdd 2026: canlyniadau lleol
Urdd Eisteddfod 2026: local results