
Mae dros gant o deganau ffug wedi cael eu hatafaelu o siopau yng Nghaergybi.
Cafodd ddoliau ‘Labubu’ a rhai i’w rhoi ar oriadau eu meddiannu ddydd Mercher yn ystod ymweliadau i nifer o siopau gan swyddogion Safonau Masnach gan y cyngor sir.
Mae’r doliau Labubu, yn cael eu creu yn Tsieina gan Pop Mart, yn hynod boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol ac yn cael eu hysbysebu gan enwogion, sy’n golygu bod llawer o alw amdanynt.
Ond yn ôl Cyngor Ynys Môn, oherwydd y galw a’r diffyg Labubu’s sydd ar gael, mae mwy o eitemau ffug yn cael eu gwerthu yn fyd-eang.
Gwelwyd bod sawl fersiwn ffug wedi’u cynhyrchu’n wael, bod darnau o’r teganau’n disgyn yn hawdd, semau’n rhwygo, ansawdd gwael o ran manylion a darnau bach y mae modd eu tynnu fel llygaid, dwylo a thraed a all beri perygl o dagu.
Roedd rhai eitemau ffug a gafodd eu profi hefyd yn cynnwys lliwiau a phlastigau gwenwynig.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, deilydd portffolio gwarchod y cyhoedd: "Mae masnachwyr diegwyddor yn cyflenwi fersiynau ffug o’r teganau poblogaidd am brisiau rhad."
"Mae gwerthu teganau rhad nad ydynt yn bodloni gofynion diogelwch y DU yn rhoi plant lleol mewn perygl a fyddwn, fel Cyngor, ddim yn derbyn hynny. Rydw i’n falch bod yr eitemau yma bellach ym meddiant ein swyddogion safonau masnach."
Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus wrth brynu eitemau am lawer is na’r pris argymelledig (RRP), ac i beidio â gadael i blant chwarae gydag unrhyw ddol ‘Labubu’ maen nhw’n amau sy’n ffug.
Ychawnegodd llefarydd ar ran Safonau Masnach ym Môn: "Anogir masnachwyr sydd ag eitemau o’r fath yn eu meddiant i’w tynnu oddi ar y silff a’u dychwelyd i’r cyflenwr."