£12 miliwn i aildatblygu Amgueddfa Llechi

Tuesday, 8 July 2025 14:21

By Ystafell Newyddion MônFM

Amgeuddfa Cymru

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis wedi dyfarnu £12 miliwn i ailddatblygu a diogelu'r safle.

Daeth yr adeilad rhestredig Gradd 1 yn Llanberis yn gartref i Amgueddfa Lechi Cymru yn 1972, pan agorodd i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn dilyn cau chwarel Dinorwig yn 1969.

Wrth sicrhau'r grant Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae project ailddatblygu yr amgueddfa yn cyrraedd carreg filltir bwysig, yn galluogi i'r gwaith symud ymlaen i'r cam nesaf ac yn diogelu dyfodol yr amgueddfa sy'n adrodd hanes rhyngwladol bwysig diwydiant llechi gogledd Cymru.

Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru: "Mae'n bleser cadarnhau ein bod ni wedi derbyn y grant sylweddol hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy'n rhoi'r sicrwydd i ni barhau â'r gwaith ailddatblygu."

"Mae hon yn garreg filltir allweddol i broject ailddatblygu Llanberis, ac yn newyddion cyffrous i ni, i'r gymuned, ac i bawb yng Nghymru."

"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gallwn ni nawr ddiogelu hanes Amgueddfa Lechi Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy i'r amgueddfa fydd yn fwy cynhwysol a hygyrch, ac yn sbarduno datblygiad a dysgu."

"Bydd hyn yn golygu y gall mwy o bobl weld a mwynhau stori llwyddiant rhyngwladol llechi gogledd Cymru."

Yn ôl Amgueddfa Cymru, bydd y gwaith yn gweddnewid profiad yr ymwelydd ac yn creu dyfodol cynaliadwy i'r safle hwn o bwys rhyngwladol, drwy gadw naws y gweithdai diwydiannol sy'n ganolbwynt i dirlun Treftadaeth y Byd UNESCO a galluogi'r amgueddfa i rannu a dathlu sut y daeth llechi o'r cornel bach hwn o ogledd Cymru i 'doi tai'r byd'.

Bydd y gwaith ailddatblygu yn creu canolfan addysg newydd, ardal chwarae, siop a chaffi, yn gwella hygyrchedd ar draws y safle, ac yn creu mwy o gyfleon i ddarganfod mwy a mwynhau hanes y diwydiant llechi mewn arddangosfeydd a dehongliadau newydd.

Ac wrth galon y project bydd y gymuned leol, yn helpu i lywio'r hanes a phrofiad yr ymwelydd. Hefyd yn greiddiol i bob agwedd o'r project fydd yr iaith Gymraeg – sy'n cael ei siarad gan 100% o staff yr Amgueddfa Lechi – gan barhau i ddathlu sut oedd y diwydiant llechi yn fodd i'r Gymraeg barhau, a ffynnu, yn y Gogledd.

Bydd gofodau arddangos pwrpasol yn galluogi Amgueddfa Cymru i rannu mwy o eitemau o'r casgliad, gan ddod ag arddangosfeydd cyffrous i'r Gogledd am y tro cyntaf a galluogi mwy o bobl Cymru i weld a mwynhau eu casgliad cenedlaethol.



Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, cadeirydd Partneriaeth Llechi Cymru: "Fel canolbwynt Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru mae gan yr Amgueddfa Lechi rôl allweddol wrth rannu'r dreftadaeth bwysig hon i'r cyhoedd – o'r gymuned leol i bedwar ban."

"Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn helpu i ddatblygu'r Amgueddfa fel porth i'n hanes a'n diwylliant fydd yn denu ac ysbrydoli cenedlaethau heddiw, ac i'r dyfodol."

Ychawnegodd Andrew White, cyfarwyddwr Crona Treftdaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Bydd y buddsoddiad chwyldroadol hwn o £12m yn sefydlu Amgueddfa Lechi Cymru fel y porth i Dirlun Treftadaeth y Byd UNESCO ac yn allweddol wrth ddatgloi cyfleon i cymunedau ar draws gogledd Cymru."

"Bydd yn diogelu dyfodol yr adeiladau rhestredig Gradd 1, gan sicrhau y bydd hanes grymus y diwydiant llechi a'r bobl a'i naddodd yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol."

"Mae'r project hwn yn fuddsoddiad hyderus yn nhreftadaeth ddiwydiannol rhyngwladol bwysig Cymru – yn darparu sgiliau, prentisiaethau a swyddi, ac yn cryfhau'r economi leol a'r tirwedd diwylliannol."


Yn ogystal â diogelu'r adeiladau hanesyddol a'r casgliadau, ac adrodd yr hanes, bydd y gwaith ailddatblygu yn cyfrannu at yr economi leol, gan gynnig swyddi, lleoliadau i fyfyrwyr, a phrentisiaethau.

Bydd y nawdd hefyd yn galluogi Llanberis i barhau i fod yn amgueddfa fyw sy'n cynnig hyfforddiant a chyfleon i bobl o bobl o bob cefndir fwynhau, dysgu, a datblygu sgiliau traddodiadol sydd mewn perygl o ddiflannu.

Yn ogystal â chadw'r sgiliau hyn yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, bydd yn gwella lles ymwelwyr ac yn help i gysylltu pobl a'u cymunedau i'r chwareli o'u cwmpas.

Dyweddod y Cynghorydd R. Medwyr Hughes, aelod y cabinet Cyngor Gwynedd dros yr economi a'r gymuned:"Rydw i wrth fy modd yn gweld swm mor sylweddol yn cael ei ddyfarnu i'r lleoliad treftadaeth hwn sydd mor bwysig i Wynedd, Cymru a'r Byd.

"Mae'n cydnabod hanes pwysig a chyfoethog yr ardal hon wnaeth doi toeon y byd, yn creu adnodd clodwiw, ac yn hwb i'r gymuned leol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'