
Bydd tri phrosiect adfywio yng nghanol dinas Bangor yn rhannu mwy na £2 filiwn mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd bron i filiwn o bunnoedd yn cael eu gwario ar gynlluniau i greu canolfan iechyd a lles newydd yn y ddinas, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 1500 oed eleni.
Mae'r cyllid yn rhan o raglen Trawsnewydd Trefi gan y Llywodraeth.
Dywedodd Ysgrifennydd dros lywodraeth leol, Jayne Bryant: "Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn dangos ein hymrwymiad i adfywio canol dinas Bangor yn ystod y flwyddyn ben-blwydd hanesyddol hon."
"Bydd y prosiectau hyn nid yn unig yn trawsnewid mannau gwag ac yn gwella cysylltedd, ond hefyd yn gwella cyfleoedd lles i drigolion ac ymwelwyr lleol."
Mae'r ganolfan iechyd newydd wedi'i chlustnodi ar gyfer hen siop Debenhams yng nghanolfan Menai.
Mae cyllid eisoes wedi cefnogi adnewyddiadau i Barc y Coleg a agorwyd yn ddiweddar, gan gryfhau cysylltiadau rhwng canol y ddinas a Phrifysgol Bangor, a darparu lle hygyrch a hawdd ei ddefnyddio i'r gymuned gyfan.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros yr economi: "Rydym wrth ein bodd yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’r rhaglen Trawsnewid Trefi."
"Mae’r gefnogaeth hon yn caniatáu inni symud ymlaen â phrosiectau allweddol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i Fangor."
"Bydd mentrau fel ailddatblygu Parc y Coleg yn darparu gofod cyhoeddus o ansawdd uchel a fydd o fudd i drigolion lleol a myfyrwyr."
"Mae’r prosiectau hyn nid yn unig yn cefnogi adfywiad y ddinas, ond maent hefyd yn rhan addas o ddathliadau 1500fed pen-blwydd Bangor."