Adeilad newydd Ysgol Uwchradd Caergybi yn symud ymlaen

Wednesday, 22 October 2025 08:36

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae cynlluniau i ddarparu adeilad newydd modern ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi wedi cymryd "cam pwysig ymlaen", yn ôl Cyngor Môn.

Cytunodd y pwyllgor gwaith gyhoeddi hysbysiad statudol yn amlinellu ei fwriad i adleoli dysgwyr rhwng 11 a 18 oed i adeilad newydd gwerth £66 miliwn, ger Canolfan Hamdden Caergybi ,yn dibynnu ar gaffael y tir yn llwyddiannus.

Daeth y penderfyniad yn dilyn ymateb cadarnhaol dros ben i ymgynghoriad eang a gynhaliwyd yn ystod yr haf. Cytunodd 79% o’r rhanddeiliaid a dysgwyr a ymatebodd (1,023) gyda'r cynnig.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys sesiynau i gael adborth gan ddisgyblion, y cyngor ysgol, staff, llywodraethwyr, rhieni a rhanddeiliaid eraill oedd â diddordeb.

Dywedodd y deilydd portffolio addysg, y Cynghorydd Dafydd Roberts: "Mae'r ymateb cadarnhaol a gawsom i'n hymgynghoriad statudol wedi rhoi'r hyder sydd ei angen i fwrw ymlaen â'r cynigion i greu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi."

"Mae'r penderfyniad heddiw i awdurdodi cyhoeddi hysbysiad statudol yn gam cyffrous tuag at agor adeilad ysgol newydd. Mae'r cynnig hefyd yn cynrychioli ein hymrwymiad i ddyfodol addysg a'r Gymraeg yn y dref ac Ynys Gybi yn ehangach."

"Bydd y mewnbwn a gafwyd gan bawb sy'n gysylltiedig ag Ysgol Uwchradd Caergybi yn ein helpu i lunio'r prosiect wrth symud ymlaen."

Prif amcanion yr adeilad ysgol newydd – fyddai’n gallu derbyn 900 o ddisgyblion - fydd sicrhau cyfleusterau addysgu o safon dda a mwy o fannau gwyrdd agored a bod digon o leoedd yn yr ysgol uwchradd i fodloni anghenion cyfredol disgyblion 11 i 18 oed, a’u hanghenion yn y dyfodol.

Bu i ddarganfyddiad concrid RAAC yn adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi amharu’n sylweddol ar weithdrefnau’r ysgol ac addysg y plant rhwng Medi 2023 ac Ionawr 2024.

Mae hyn, law yn llaw â’r angen am wariant sylweddol ar gynnal a chadw, yn golygu bod yr adeilad presennol yn dod i ddiwedd ei oes.

O'r nifer oedd yn anghytuno â'r cynigion, dywedodd rhai bod y safle newydd yn rhy bell o ganol y dref ac roedd eraill eisiau gweld yr ysgol bresennol yn cael ei hailddatblygu.

Ond yn ôl y cyngor, mae gwerthusiad manwl o safleoedd posib yn ardal Caergybi wedi dangos mai'r safle arfaethedig ger y ganolfan hamdden yw'r unig un sy'n bodloni canllawiau Llywodraeth Cymru, sy'n gofyn am 31,625m² ar gyfer adeilad newydd (heb gaeau chwarae).

Dim ond 27,000m² yw arwynebedd safle presennol yr ysgol ac ni fyddai'n addas i'w ailddatblygu.

Byddai cyflawni'r cynllun arfaethedig yn dibynnu ar sicrhau cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Y gobaith yw y byddai’r gost o £65.9m a ragwelir ar gyfer yr adeilad yn cael ei ariannu’n rhannol trwy model buddsoddi cydfuddiannol.

Ychwanegodd cyfarwyddwr addysg Cyngor Môn, Aaron C Evans: "Mae swyddogion y cyngor wedi ystyried nifer o opsiynau ar gyfer dyfodol darpariaeth addysg uwchradd yn ardal Caergybi."

"Rydym yn falch bod y pwyllgor gwaith wedi cytuno heddiw mai adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi yw'r ffordd orau ymlaen."

"Byddai creu adeilad modern newydd yn golygu buddsoddiad sylweddol mewn addysg yng Nghaergybi a’r ardal dalgylch ehangach yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sector uwchradd yno."

"Byddai adeilad ysgol newydd gyda chyfleusterau modern arbenigol o’r radd flaenaf hefyd yn helpu sicrhau’r profiadau addysg a deilliannau gorau posib i bobl ifanc; ac yn cefnogi amcanion strategaeth moderneiddio cymunedau dysgu a datblygu’r Gymraeg y cyngor sir."

Bydd yr hysbysiad statudol yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnos gyntaf mis Tachwedd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Your Weekend Starts Early

    7:00pm - 9:00pm

    Brynski & Kalso are in the mix to kick-start your weekend a little earlier!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'