Agor Pont Menai yn rhannol ddydd Gwener

Thursday, 9 October 2025 14:06

By Ystafell Newyddion MônFM

Bydd Pont Menai yn ailagor yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr yn unig am 7yb fore Gwener, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau.

Mae'r bont wedi bod ar gau dros dro ers dydd Sadwrn diwethaf ar gyngor diogelwch gan beirianwyr.

Bydd y cynllun gorfodi traffig ar gyfer ailagor yn rhannol, a ddatblygwyd gan UK Highways A55 DBFO Ltd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd, yn gweithredu rhwng 7yb a 7yh.

Ni chaniateir unrhyw gerbydau sy'n tynnu carafanau na threlars ar draws y bont yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd y bont ar gau yn llwyr dros nos, rhwng 7yh a 7yb bob nos. Bydd gwaith ac arolygiadau pellach yn digwydd tra bo’r bont ar gau.

Tra bo'r bont ar agor, dim ond cerbydau hyd at derfyn pwysau o 3 tunnell fydd yn gallu ei defnyddio, a bydd mesurau rheoli traffig ac un llif o draffig oddi ar yr ynys yn y bore - rhwng 7yb a 1yp - ac i'r ynys yn y prynhawn rhwng 1yp a 7yh.

Bydd mynediad i'r bont yn cael ei reoli naill ai gyda byrddau neu signalau traffig ar gyffyrdd y gylchfan ychydig cyn y bont ar y naill ochr a'r llall.

Wrth gyrraedd y bont, bydd disgwyl i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r droedffordd bwrpasol. Bydd cerddwyr yn defnyddio troedffordd ar wahân.

Bydd cerddwyr a beicwyr yn gallu defnyddio'r bont dros nos. Bydd trefniadau mynediad brys ar waith ar gyfer ambiwlansys nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia.

Tra bo'r bont ar agor, bydd camau gorfodi ar waith i sicrhau bod defnyddwyr yn cadw at y terfyn pwysau 3 thunnell. Bydd peidio â chydymffurfio yn arwain at gamau erlyn gan yr heddlu a bydd yn arwain at gyfnodau eraill o gau'r bont er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy'n croesi.

Bydd gwaith yn digwydd ar yr un pryd i wneud yr atgyweiriadau angenrheidiol i'r bolltau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio cyn gynted â phosibl i gael gwared ar y terfyn 3 thunnell a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar amserlen amcangyfrifedig pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael."

"Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd i'r gymuned leol a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus wrth i ni geisio datrys y mater brys hwn."

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn wedi croesawu yr cyhoeddiad "er lles busnesau Porthaethwy a thrigolion yr ynys".

Dwyeddod Llinos Medi: "Mae'n hanfodol bod y rheolau traffig yn cael eu dilyn oherwydd cyfyngiadau pwysau."

"Mae'r ailagor rhannol yn golygu lleihau'r pwysau traffig i bawb sy'n gwneud y daith foreol dros y bont i'r tir mawr ac yn dychwelyd i'r ynys yn y prynhawn. Rwy'n annog pawb i ddilyn y rheolau i sicrhau bod y bont yn aros ar agor."

"Mae trafodaethau pellach am y camau nesaf yn parhau, ond am heddiw rydym yn falch o weld y bont yn ail agor yn rhannol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    11:00am - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'