
Bydd Pont Menai yn ailagor yn llawn i draffig dwyffordd fore Gwener ar ôl i waith dros dro i fynd i'r afael â phroblem gyda nifer o folltau ar y bont gael ei gwblhau'n llwyddiannus.
Bydd y bont yn agor o 7yb ar 24 Hydref gyda therfyn pwysau o 7.5 tunnell ar waith, gan fod peirianwyr wedi cynghori y gellir codi'r terfyn pwysau 3 tunnell flaenorol nawr ar ôl i'r bont gael ei hatgyfnerthu ymhellach.
Bydd y gwaith dros dro yn cael ei archwilio bob dydd Mercher am 10am a bydd y traffig yn cael ei reoli ar y bont gydag arwyddion aros/mynd
Mae'r ailagor yn cyd-fynd â Ffair Borth, a bydd yn caniatáu i draffig deithio i'r ynys ac oddi yno ar y ddwy bont.
Dyweddod llefarydd ar ran Llywrodaeth Cymru: "Bydd gwaith ar ddatrysiad parhaol i'r broblem hon yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn hwyluso gwaith Cam 2. Darperir diweddariadau pellach, gan gynnwys ar hynt rhaglen waith Cam 2, yn fuan."
"Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd i'r gymuned leol wrth i'r gwaith gael ei wneud a diolch i bawb am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn."
Mwy i ddilyn.