
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu camau cyfreithiol yn erbyn y caniatâd cynllunio a roddwyd i ddatblygiad ynni solar mawr ym Môn.
Bydd Cyngor Ynys Môn yn ceisio her gyfreithiol dros brosiect Alaw Môn a gymeradwywyd gan Rebecca Evans, ysgrifennydd yr economi, ym mis Awst.
Rhoddwyd y caniatâd er gwaethaf gwrthwynebiad sylweddol gan y cyhoedd a'r awdurdod lleol yr ynys.
Bydd cwmni Enso Energy yn gosod paneli solar ar y llawr a fyddai'n gorchuddio tua 268 hectar o dir amaethyddol rhwng Llantrisant a Llannerch-y-medd.
Dyweddod arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Fel cyngor, rydym wedi mynegi ein siom a'n rhwystredigaeth gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu datblygiad fferm solar Alaw Môn, yn groes i'w bolisïau ei hun mewn perthynas â defnyddio tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas."
"Mae'r datblygiad arfaethedig wedi creu llawer iawn o bryder yn ein cymunedau a phryderon am ddiogelwch bwyd yn y dyfodol."
"Mae'r cyngor wedi gwrthwynebu sawl agwedd allweddol o'r cais hwn o'r cychwyn cyntaf, ac rydw i'n falch y gellir defnyddio'r pryderon a godwyd yn awr i gefnogi'r her gyfreithiol."
Ar dydd Iau, cytunodd pwyllgor gwaith y cyngor i fwrw ymlaen â her gyfreithiol. Daw'r penderfyniad ddyddiau'n unig wedi i'r Cyngor Llawn bleidleisio o blaid archwilio pob llwybr posib, gan gynnwys adolygiad barnwrol, i herio'r penderfyniad.
Byddai'n cymryd tua 12 mis i adeiladu'r datblygiad solar arfaethedig, a byddai'n weithredol am 40 mlynedd cyn cael ei ddatgomisiynu.
Y dyddiad cau i gyflwyno apêl yw dydd Mawrth nesaf (7 Hydref).
Dyweddod y Cynghorydd Aled Morris Jones, arweinydd Grŵp Annibynwyr Môn: "Fedrwn ni ddim fforddio colli tir amaethyddol gwerthfawr. Mae'r prosiect hwn gyfystyr â boddi ardal, yn union fel Tryweryn, ond boddi gyda phaneli solar yn yr achos hwn, yn hytrach na gyda dŵr."
Ychwanegodd y Cynghorydd Ieuan Williams, arweinydd y Grŵp Annibynnol: "Mae'r gweinidog a'r arolygiaeth wedi fy siomi a chredaf y dylem wneud popeth posib i wrthdroi'r penderfyniad hwn a wnaed yng Nghaerdydd."
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylwadau ar unrhyw her gyfreithiol bosibl, ond yn ôl Rebecca Evans, mae manteision prosiect Alaw Môn yn gorbwyso'r niwed.