
Mae swyddogion yn annog defnyddwyr y ffyrdd, rhieni ac aelodau’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus ar ôl i dri plentyn fod mewn gwrthdrawiadau.
Mae’r rhybudd yn dilyn digwyddiadau yn ymwneud ag un ai rhedeg neu beicio i’r ffordd ddydd Gwener diwethaf.
Mi gafodd plentyn naw oed ei daro gan gerbyd ym Mangor ar ôl iddo reidio ei feic i lawr arglawdd.
Ac ychydig yn ddiweddarach, mi gafodd plentyn pump oed ei anafu ar ôl rhedeg allan i’r ffordd a chael ei daro gan gerbyd yng Nghricieth.
Mi gafodd plentyn pedair oed hefyd eu hanafu wrth iddyn nhw redeg allan ar Ffordd Maesdu yn Llandudno a gwrthdaro efo cerbyd.
Dywedodd Arolygydd Leigh Evans o Heddlu Gogledd Cymru: "Diolch byth, ni gafodd yr un o’r plant eu hanafu’n ddifrifol, ond mi allai’r canlyniad wedi bod yn wahanol iawn."
"Da ni’n galw ar bawb i sicrhau bod plant yn cael eu goruchwylio a’u cadw’n ddiogel ger ein ffyrdd."
"‘Da ni’n gwybod gallai fod yn anodd cadw llygad barcud drwy’r amser, fodd bynnag, mae’r digwyddiadau diweddar hyn yn dangos pwysigrwydd bod yn wyliadwrus."
"Da ni hefyd yn annog gyrwyr i fod yn wyliadwrus o blant sy’n cerdded – yn enwedig mewn ardaloedd adeiledig. Mae angen i blant hefyd dalu sylw ac edrych a gwrando am draffig."
"Plant ydy rhai o’n defnyddwyr ffyrdd sydd fwyaf bregus ac mae eu diogelwch o’r pwysigrwydd mwyaf – mae cadw plant yn ddiogel ar ein ffyrdd yn gyfrifoldeb ar bawb, ac er bod plant a phobl ifanc yn dysgu llywio traffig yn ddiogel, mae’n rhaid i yrwyr fod yn wyliadwrus, arafu a rhagweld symudiadau annisgwyl plant."