
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio mewn cyfres o gyrchoedd cyffuriau ym Mangor a Chaernarfon.
Cafodd cyffuriau gwerth dros £100,000 eu hatafaelu yr wythnos diwethaf, gan gynnwys gan gynnwys swm o heroin, madarch hud wedi’u sychu a canabis.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mi gyflawnwyd y gwarantau wedi i swyddogion gael gwybod ynglŷn â phryderon lleol ynglŷn â chyffuriau mewn eiddo preswyl.
Dywedodd PC Scott Jones: "Mi wnawn ni barhau i dargedu ac ymyrryd ar gyffuriau sy’n achosi gofid i aelodau’r gymuned."
"Mae tyfu a chyflenwi cyffuriau mewn eiddo preswyl yn cael effaith mawr ar gymdogion a theuluoedd sy’n byw gerllaw, wrth roi eu tai nhw’u hunain mewn mwy o berygl o dân a goblygiadau iechyd i’w plant nhw."
"Mae nodi’r unigolion hyn yn ein galluogi ni i atal troseddau difrifol a gwarchod y rhai sy’n agored i gamfanteisio."
Mae dyn 55 oed a dyn 32 oed wedi cael eu harestio, a bellach wedi cael mechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.