Mae dyn o Flaenau Ffestiniog wedi cael ei arestio yn dilyn honiadau o gam-drin rhyw hanesyddol yn erbyn plant.
Mi gafodd dyn yn ei 80au ei arestio bore Iau o dan amheuaeth am nifer o throsedd o ymosod anweddus.
Mae’r dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Llanelwy wrth i ymholiadau’r heddlu barhau.
Mae ditectifs yn rhybuddio'r cyhoedd i beidio â dyfalu am yr ymchwiliad.
Dyweddod Ditectif Uwcharolygydd Chris Bell o Heddlu Gogledd Cymru: "Mi wnawn ni geisio mynd ar drywydd gwybodaeth ynglŷn â gweithgareddau rhywiol amhriodol ledled Gogledd Cymru yn ddi-baid."
"Da ni’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol i ddod atom ni, waeth pryd ddigwyddodd hynny. Dydy o byth yn rhy hwyr."
"Da ni’n parhau i ymroi ceisio cyfiawnder ar gyfer dioddefwyr, ac mi hoffwn dawelu eich meddwl chi y byddwn ni’n gwrando arnoch chi. Mi fydd swyddogion arbenigol yn eich cefnogi chi, ac mi fydd eich gwybodaeth chi’n cael ei ymchwilio’n drwyadl."
"Gan bod hwn yn ymchwiliad sy’n digwydd ar hyn o bryd, dwi’n annog aelodau’r cyhoedd i beidio â damcaniaethu nac enwi unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad hwn."


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'