
Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn ffrae honedig ger bloc o fflatiau ym Mhwllheli.
Cafodd dau dyn eu gludo i ysbyty gydag anafiadau yn dilyn yr aflonyddwch ger adeilad Yr Eifl ar Ffordd Mela tua 10.30 fore Llun.
Dyweddod yr heddlu nad oedden nhw'n credu bod eu hanafiadau yn peryglu eu bywydau.
Cafodd trydydd dyn ei arestio yn y fan a'r lle ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dwyeddod yr Arolygydd Andrew Davies o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae swyddogion yn parhau yn y fan a'r lle wrth i'n hymcwhiliad i'r digwyddiad hwn barhau."
"Rydym am sichrau'r gymuned leol nad oes unrhyw fygythiad parhaus i'r cyhoedd ac mae'r sawl sydd o dan amheuaeth yn y ddalfa ar hyn o bryd."
Mae'r heddlu wedi apelio ar dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, i ffonio 101 neu ddefnyddio'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyferinod y digwyddiad C123655.