
Mae dyn o Aberffraw wedi cael ei arestio ar ôl iddo gael ei alw'n ôl i'r carchar.
Cafodd Karl Wayne Williams, 38 oed, ei arestio gan swyddogion yn ardal Rhosneigr ar ddydd Gwener.
Yn ôl yr heddlu, roedd Williams yn osgoi swyddogion yn dilyn ei alw’n ôl fis diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mi wnaeth swyddogion ganfod Williams yn Rhosneigr heddiw...ac mae bellach yn ôl yn y carchar."
"Diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth yn dilyn yr apêl."