Cafodd tri o bobl eu harestio yn ystod cyfres o gyrchoedd cyffuriau ym Môn.
Mi amcangyfrifir bod gwerth £10-15,000 o gyffuriau wedi’u hatafaelu ar ôl cynnal gwarantau yn ardaloedd Llangefni a Gaerwen ddydd Mawrth.
Bu chwiliadau hefyd mewn trydydd cyfeiriad yng Nghaergybi.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mi atafaelwyd swm o gyffuriau a amheuir o fod yn ddosbarth A a B, arian parod ac arfau.
Mae dau o’r cyfeiriadau wedi derbyn ‘hysbysiadau cau’, sy’n gwahardd unrhyw un heblaw y ddau breswyliwr rhag mynd i’r cyfeiriad am 48 awr.

Dyweddod Rhingyll Dylan Thomas gan y tîm plismona cymdogaethau: "Dwi’n ddiolchgar i’r gymuned am eu cefnogaeth a’u gwybodaeth wnaeth arwain yr heddlu at dargedu’r eiddo hyn."
"Mae eiddo sy’n cael eu defnyddio ar gyfer cyflenwi cyffuriau’n gallu cael effaith ddinistriol ar aelodau’r gymuned sy’n byw gerllaw."
"Mi fuaswn i’n annog preswylwyr efo unrhyw bryderon ynglŷn â chyffuriau yn eich ardal chi i gysylltu efo’r heddlu, un ai drwy ein gwefan, drwy ddod i un o'n digwyddiadau cymunedol, neu drwy siarad efo aelodau o’r tîm ar batrôl."
"Mi fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei drin yn gyfrinachol ac mi gaiff ei ymchwilio’n drylwyr."

Mi gafodd tri unigolyn eu harestio o dan amheuaeth o droseddau’n gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B, meddu arfau, gwyngalchu arian a throsedd mewn cysylltiad â chadw ci gwaharddedig.
Mae nhw bellach wedi’u rhyddhau o dan ymchwiliad, wrth i ymholiadau’r heddlu barhau.
Ychwanegodd yr Arolygydd Ardal, Wayne Francis: "Mae’n flaenoriaeth i ni ein bod ni’n gwrando ar bryderon preswylwyr ynglŷn â throseddoldeb ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gweithredu’n gyflym er mwyn gwneud Ynys Môn yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld."


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'