Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i fusnesau lleol am eu barn ar deilwra gwasanaethau a chefnogaeth am y dyfodol.
Mae cyfle i berchnogion busnes o fewn y sir rannu eu barn drwy holiadur byr.
Bydd canlyniadau’r arolwg yn rhoi trosolwg o'r hinsawdd fusnes sydd ohoni ac yn helpu’r cyngor i gael gwell dealltwriaeth o anghenion busnesau’r sir.
Dyweddod y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros yr economi a chymuned: "Rydym yn awyddus i glywed yn uniongyrchol gan fusnesau o bob math a sector am yr heriau rydych chi’n eu hwynebu, y math o gefnogaeth a allai wneud gwahaniaeth, a’ch blaenoriaethau ar gyfer y misoedd i ddod."
"’Dw i’n annog unrhyw un sy’n rhedeg busnes yng Ngwynedd i gymryd rhan yn yr arolwg byr hwn. Bydd eich barn yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r hinsawdd fusnes sydd ohoni ac i ymateb gyda chefnogaeth sy’n berthnasol ac yn amserol."
"Mae busnesau yn ganolog i’n heconomi lleol, ac i allu parhau i gynnig cymorth ystyrlon, mae angen darlun clir o’r pwysau a’r cyfleoedd rydych chi’n eu hwynebu. Bydd canlyniadau’r arolwg yn rhan allweddol o lunio’r ymateb hwnnw."
I gwblhau’r arolwg, ewch i wefan Cyngor Gwynedd neu cysylltwch â busnes@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 679505. Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos ar dydd Llun 1 Rhagfyr.


Dyn o Fae Cemaes yn cyfaddef delio cyffuriau
Carcharu dyn am ymddygiad rheolaethol
Ymestyn gorchymyn diogelu ym Mangor
Mwy o arian i ailwampio Ysgol Tryfan
Carcharu dyn o Lanystumdwy am stelcio