Atafaelu asedau gwerthwr cyffuriau o Rachub

Wednesday, 14 October 2026 17:53

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu wedi atafaelu mwy nag £82,000 o enillion troseddol oddi wrth werthwr cyffuriau.

Cafodd Arthur Hughes, 75 oed, ei garcharu ym mis Mehefin am feddu ar heroin gyda'r bwriad o'i gyflenwi a dau gyhuddiad o feddu ar eiddo troseddol.

Mae Hughes, cyn-adeiladwr o Rachub ger Bethesda, yn gwasanaethu dedfryd o dair blynedd a dau fis yn y carchar.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, amcangyfrifwyd bod yr elw o’i weithgarwch troseddol yn fwy na £151,730.

Atafaelodd Heddlu Gogledd Cymru arian parod ac asedau troseddol gwerth £82,401, a gorchmynnwyd eu fforffedu o dan Ddeddf Enillion Troseddau (POCA).

Gorchmynnwyd hefyd i’r cyffuriau a’r offer cysylltiedig a gafwyd yn ystod gweithredu’r warant yn ei gartref gael eu dinistrio.

Yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd PC Jacob Swift: “Rydym yn parhau i fynd ar drywydd y rhai sy’n ceisio gwneud elw o werthu cyffuriau, a byddwn yn defnyddio pob dull sydd ar gael inni i amddifadu troseddwyr o unrhyw asedau y maent wedi’u hennill o ganlyniad i’w gweithgarwch.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Country Club with Bob Aitken

    7:00pm - 9:00pm

    From Nashville to MônFM – Bob's got your country fix!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'