Mae siop gyfleustra ym Mangor wedi cael ei gorfodi i gau am werthu tybaco anghyfreithlon.
Cafodd gochymyn cau ei gyflwyno trwy'r llys ar gyfer siop 'Top Shop' ar y Stryd Fawr (hen 'City Mini Market') am dri mis yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion Safonau Masnach.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae'r siop ar 280 Stryd Fawr ym Mangor wedi bod yn ymwneud â gwerthu sigaréts anghyfreithlon, fêps tybaco tra o dan reolaeth mwy nag un perchennog busnes – gyda newidiadau aml mewn perchnogaeth, tacteg hysbys a ddefnyddir i osgoi camau gorfodi.
Yn ystod y cyfnod ymchwilio, fe wnaeth swyddogion y cyngor atafaelu nifer sylweddol o fêps anghyfreithlon a theganau ffug.
Gweithiodd y cyngor yn agos gydag asiantaethau partner gan gynnwys safonau masnach cenedlaethol a CThEM, gyda sawl pryniant prawf llwyddiannus yn cadarnhau cyflenwad tybaco a sigaréts anghyfreithlon.
Yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun, bydd y busnes ar gau am dri mis tan hanner nos ar 2 Mehefin, a bydd swyddogion y cyngor ynghyd â phartneriaid yn parhau i fonitro'r safle ac unrhyw fusnes arall sy'n torri'r gyfraith.
Dyweddod y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet dros yr amgylchedd: "Pan fydd pobl yn ymweld â siop, mae ganddyn nhw hawl i ddisgwyl bod yr hyn maen nhw'n ei brynu yn ddiogel ac yn ddilys."
Ychwanegodd: "Er bod ein swyddogion bob amser yn anelu at ymgysylltu'n gadarnhaol efo busnesau i'w helpu i ddeall eu cyfrifoldebau, mae pwynt yn dod lle does gennym ddewis ond cymryd camau cyfreithiol."
"Mae'r gorchymyn cau hwn yn anfon neges glir am ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r cyflenwad o gynhyrchion anghyfreithlon yn ein cymunedau."
"Rydym yn annog y cyhoedd i fod yn hynod ymwybodol o'r hyn maen nhw'n ei brynu a pheidio â chefnogi'r fasnach anghyfreithlon hon sy'n peri risgiau gwirioneddol i bob un ohonom."
Yn ôl y cyngor, gall fêps anghyfreithlon fod yn niweidiol iawn. Maent yn aml yn cynnwys cryfderau nicotin uwchlaw terfynau cyfreithiol, a gallant hefyd gynnwys cemegau anghyfreithlon, a allai fod yn niweidiol.
Mae tîm safonau masnach yn defnyddio ystod o ddulliau ymchwilio, gan gynnwys cŵn canfod tybaco, i ddarganfod cynhyrchion cudd - arwydd clir bod gweithredwyr yn gwbl ymwybodol o'u gweithgareddau anghyfreithlon.
Mae gweithio partneriaeth agos o fewn a thu hwnt i'r cyngor yn parhau i fod yn hanfodol wrth fynd i'r afael â'r mater cynyddol.


Niwbwrch: ystâd newydd bron â'i chwblhau
Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin