
Mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus (GDMC) yng nghanol dinas Bangor am dair blynedd arall.
Golygai’r gorchymyn, sydd wedi bod yn weithredol ers 2019, fod gan yr heddlu bwerau ychwanegol o fewn yr ardaloedd hyn i fynd i'r afael â materion neu niwsans benodol, gyda'r nod o wella bywydau trigolion ac ymwelwyr yr ardal.
Mae cyfle nawr i’r gymuned leol ddarllen manylion y gorchymyn a dweud eu dweud ar y bwriad o ymestyn y gorchymyn presennol hyd nes 2028.
Yn ychwanegol i hyn, bydd Cyngor Gwynedd yn holi barn cynghorwyr sir a chynghorwyr dinas lleol ar y mater.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, aelod y cabinet sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol: "Dwi’n pwysleisio fod Bangor yn parhau i fod yn ddinas ddiogel i fyw, gweithio ac ymweld a hi, a dim ond lleiafrif bychan o bobl sy’n gwneud sefyllfa annymunol i bobl a busnesau lleol."
"Fel cyngor, rydym yn gweithio'n agos gyda’n partneriaid o Heddlu Gogledd Cymru a'r gymuned ehangach i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae’r GDMC wedi bod yn arf allweddol i’n helpu i wneud hynny."
"Nid yw’r mwyafrif helaeth o bobl Bangor erioed wedi bod yn rhan o unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac nid yw’n fwriad gennym stopio pobl rhag cymdeithasu a chael mynediad at a mwynhau mannau cyhoeddus."
"Yn hytrach, pwrpas y gorchymyn yw ei gwneud yn haws i awdurdodau fynd i'r afael â'r lleiafrif bychan o bobl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol, gan sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn ardaloedd diogel, agored a bywiog y gall pawb eu mwynhau a theimlo'n ddiogel ynddynt."
Bwriad y GDMC yn targedu:
- Ymddygiad sy'n debygol o beri aflonyddwch, dychryn, niwsans neu boendod.
- Ymdroi mewn cyflwr meddwol o ganlyniad i weithgaredd a ysgogwyd gan alcohol neu gyffuriau.
- Yfed alcohol yn dilyn cais gan yr Heddlu i stopio yfed.
- Loetran neu berfformio o fewn 10 metr o beiriant codi arian.
Mae arwyddion mewn ardaloedd allweddol o Fangor yn hysbysu trigolion ac ymwelwyr o'r cyfyngiadau.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn llwyr gefnogi ymestyn y GDMC ym Mangor "i sicrhau y gallwn barhau i weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â materion parhaus ar y Stryd Fawr."
Dyweddod y Prif Arolygydd Stephen Pawson: "Ers cyflwyno'r GDMC yn 2019, bu gostyngiad sylweddol mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed ar y stryd."
"Fodd bynnag, roedd adborth gan drigolion a busnesau i arolwg cymunedol diweddar yn tynnu sylw at y ffaith bod digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i fod yn bryder."
"Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud yn yr ardal i adeiladu gwytnwch i droseddau cyfundrefnol difrifol a lleihau troseddu ar y Stryd Fawr. Mae'r gorchymyn yn parhau i fod yn arf hanfodol i barhau â'r gwaith hwn er budd trigolion a busnesau."
Mae modd i bobl leol weld y gorchymyn cyfedol ar wefan Cyngor Gwynedd a bydd yr ymghynghoriad yn cau ddydd Llun 3 Tachwedd.