Bethesda: carcharu dyn am gam-drin domestig

Tuesday, 8 July 2025 17:11

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Fethesda wedi cael ei garcharu ymosod ar ddynes a'i rheoli yn dreisgar.

Bu Callum O'Marah yn cam-drin ei ddioddefwr yn ei chartref dros sawl mis, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Pleidiodd O'Marah, 28 oed, yn euog i reoli drwy orfodaeth, dau gyhuddiad o dagu bwriadol a bygwth rhannu llun personol.

Rheolodd y defnydd o'i ffôn a'r cyfryngau cymdeithasol a'i dyrnu, ei churo a'i thagu ar sawl achlysur.

Parhaodd O'Marah i'w ffonio ac anfon negeseuon ati bob dydd hyd yn oed ar ôl iddo gael ei arestio a'i wahardd rhag cysylltu â hi.

Ym Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, cafodd ei garcharu am dair blynedd a naw mis.

Dywedodd yr Ymchwilydd Sifil Amy Hall-Jones: "Fe wnaeth O'Marah ymosod yn dreisgar gan ddefnyddio ymddygiad bygythiol a achosodd i'r dioddefwr fyw mewn ofn."

"Does gen i ddim amheuaeth y bydd y digwyddiadau hyn yn cael effaith hirdymor ar ei bywyd yn y dyfodol, ond rwy'n gobeithio ei bod hi'n derbyn cysur gan y ddedfryd hon."

"Mae digwyddiadau o'r math hwn yn anodd eu riportio ond byddwn yn rhoi sicrwydd i ddioddefwyr y byddwn yn gwrando arnoch chi, yn eich cefnogi ac yn ymchwilio'n llawn i bob adroddiad."

"Rydym yn parhau i fod yn benderfynol o fynd i'r afael â thrais yn erbyn merched a genethod, ac ni fyddwn yn stopio yn ein hymdrechion i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."

Cafodd hefyd orchymyn atal i amddiffyn y dioddefwr, sy'n para am 10 mlynedd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • The Connections Show

    2:00pm - 4:00pm

    Punk to funk... and everything in between....

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'