Mae dyn o Bethesda wedi cael ei garcharu ar ôl cyfaddef ei fod wedi gyrru ei gar yn fwriadol i mewn i ddyn arall.
"Plediodd Thomas Baker, 19 oed, yn euog yn dilyn digwyddiad y tu allan i Gaffi Seren ar y Stryd Fawr ym mis Awst.
Cafodd y dyn 37 oed ei adael yn gorwedd yn anymwybodol ar y palmant ar ôl i Audi A3 gwyn a yrrwyd gan Baker ei daro ar gyflymder.
Cyn y gwrthdrawiad, roedd y dioddefwr a'i ffrind wedi bod yn rhan o ffrae gorfforol hefo Baker a dyn arall.
Yna dangosodd lluniau camerâu cylch cyfyng a adolygwyd gan swyddogion ymchwilio y car yn troi rownd ac yn cyflymu tuag at y dioddefwr – mynd ar y palmant a'i daro o'r tu ôl.
Adroddodd llygad dystion fod grym yr effaith wedi taflu'r dioddefwr i fyny yn yr awyr, gan ei adael hefo clwyfau sylweddol i'w ben ac anafiadau eraill. Ymatebodd yr heddlu ac ambiwlans i alwadau 999 o'r fan a'r lle, hefo'r dioddefwr wedyn yn cael ei gludo i'r ysbyty.
Dechreuodd swyddogion yn gyflym chwilio am yr un o dan amheuaeth, a oedd wedi ffoi o'r fan a'r lle yn y cerbyd troseddol.
Ar ôl dod o hyd iddo a'i arestio ar 19 Awst - y diwrnod ar ôl yr aflonyddwch - cyhuddwyd Baker o ymosod trwy guro, anafu bwriadol, gyrru cerbyd modur yn beryglus, gyrru ac yntau wedi'i wahardd, a throseddau moduro eraill.
Cafodd Baker, a blediodd yn euog i bob trosedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug fis diwethaf, ei ddedfrydu i 40 mlynedd mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.
Yn dilyn y ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon fore Mercher, dyweddod Ditectif Gwnstabl Gwion Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd hwn yn ddigwyddiad ofnadwy yng ngolau dydd ar Stryd Fawr a oedd yn brysur hefo trigolion, twristiaid a phlant yn mwynhau eu gwyliau haf."
"Dangosodd Baker ddiystyriaeth syfrdanol o ddiogelwch a lles y dioddefwr a'r cyhoedd ehangach."
"Mi fuasem yn hoffi diolch i bawb a ddaeth ymlaen hefo gwybodaeth a fideos a wnaeth helpu ein hymchwiliad ni."
"Roedd swyddogion yn gallu dod o hyd, cadw ac arestio Baker yn gyflym – hefo sawl cyhuddiad wedi'i ddwyn yn ei erbyn am ei droseddu."
"Da ni'n gobeithio y bydd cymuned Bethesda yn cael sicrwydd yn ymateb prydlon a phenderfynol yr heddlu."
"Da ni hefyd yn croesawu'r ddedfryd o garchar a roddwyd gan y barnwr, sy'n anfon neges glir na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef yn ein cymunedau ni."


Dirwy o £20,000 am waith trydanol anniogel
Chwe dyn yn y llys ar gyhuddiadau cyffuriau
Byrgleriaethau yn Amlwch: arestio dyn
Carcharu dyn o Fangor am ymosodiad treisgar
Cyfarwyddwyr iechyd yn ymuno â chyfarfodydd Cyngor Môn