Blaenoriaethau newydd i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg

Tuesday, 30 September 2025 14:17

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Gofynnir i'r cyhoedd helpu i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg, fel rhan o gynlluniau newydd i ddiogelu ein treftadaeth ieithyddol.

Mae gwefan newydd yn golygu y gall unrhyw un gofnodi enwau Cymraeg a hanesyddol nad ydynt yn ymddangos ar fapiau ar-lein.

Yr enw yr oedd eich taid yn ei ddefnyddio ar gyfer cae lleol, yr enw Cymraeg ar fryn yn eich ardal, neu'r enw hanesyddol ar eich stryd neu gartref, gallwch helpu i ddiogelu'r enwau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r cyhoedd hefyd yn cael eu hannog i gyfrannu at adnoddau ar-lein fel Wicipedia drwy recordio clipiau sain yn dangos sut y dylid ynganu enwau lleoedd a darparu sillafiadau seinegol, gan helpu pobl i ddeall y straeon cyfoethog y tu ôl i enwau lleol.

Daw hyn yn rhan o gyfres o flaenoriaethau a gyhoeddwyd i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg. Mae'r rhain yn ymateb i ymchwil ddiweddar a ganfu nad yw'r rhan fwyaf o newidiadau i enwau eiddo yn cynnwys newid yn yr iaith.

Fodd bynnag, pan fydd yr iaith yn cael ei newid, mae'r enwau dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu newid o'r Saesneg i'r Gymraeg, yn hytrach nag fel arall.

Dywedodd ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae enwau lleoedd yn cyfleu pwy ydym ni ac o ble rydym yn dod."

"Bydd y mesurau newydd hyn yn sicrhau bod ein henwau lleoedd Cymraeg - o fynyddoedd chwedlonol fel Cadair Idris i Felin Wen, hen felin sy'n adrodd hanes cymuned fechan - yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan ei gwneud yn haws i bawb gymryd rhan."

Mae blaenoriaethau eraill yn cynnwys dyroddi canllawiau cliriach i awdurdodau lleol a sefydliadau sy'n gyfrifol am enwau lleoedd, a chomisiynu ymchwil bellach i enwau nodweddion ffisegol yn y dirwedd, fel bryniau a nentydd.

Mae proseict newydd yn adeiladu ar y gwaith a wneir gan brosiectau mapio fel Mapio Cymru a'r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, yn ogystal â chyrff cyhoeddus fel Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.

Dywedodd Naomi Jones, cyfarwyddwr rheoli tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae enwau tirweddol yn nodwedd hollbwysig o dreftadaeth ddiwylliannol Eryri."

"Maent yn perthyn i’r tir ac i stori cenedlaethau o drigolion yr ardal ac mae ein cymunedau yn ferw o wybodaeth unigryw am ein enwau lleoedd rhyfeddol."

"Rydym yn hynod falch o weld cyfle i bobl gyfrannu eu gwybodaeth mewn modd fydd yn gwarchod yr enwau ac yn ysbrydoli eraill i’w defnyddio yn eang ar lawr gwlad."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    11:00am - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'