Mae'r heddlu wedi enwi taid a fu farw mewn gwrthdrawiad â fan ar ffordd osgoi Caernarfon.
Cafodd Geraint Jones, 64 oed, ei daro gan gerbyd ar yr A487 ger Bontnewydd tua 8.30pm nos Sul diwethaf.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Mr Jones yn y fan a’r lle.
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a'i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Wrth dalu teyrnged mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Jones: "Rydym wedi ein torri’n llwyr o golli gŵr, tad a thaid annwyl."
"Fel teulu hoffwn ddiolch i’r gwasanaethau brys a phawb arall oedd yn bresennol am eu cymorth wrth geisio helpu Geraint ar y noson."
"Hoffwn ddiolch i bawb hefyd am eu negeseuon caredig llawn cariad a chefnogaeth yn ystod yr amser trist yma."
"Mae Geraint yn gadael gwraig, Mary, dau fab, Richard a Patrick, a’i wyrion a’i wyres Ella, Leo ac Isaac."
Bu'r ffordd ar gau am sawl awr rhwng Bontnewydd a chylchfan Llanwnda yn dilyn yr gwrthdrawiad.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau i gysylltu â nhw.


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'