Cadeirydd newydd Cyngor Môn

Wednesday, 21 May 2025 15:13

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae'r Cynghorydd Non Dafydd wedi cael ei hethol yn gadeirydd newydd Cyngor Ynys Môn.

Cafodd y Cyng Dafydd ei hethol ar y cyngor sir yn gyntaf nôl ym mis Mai 2022 ac mae’n un o dri chynghorydd sir sydd yn gwasanaethu Canolbarth Môn.

Yn byw yn Llandrygarn, sydd yn ei ward, mae’r Cyng Dafydd yn gweithio fel rheolwr swyddfa i Rhun Ap Iorwerth AS yn Llangefni. Mae ganddi hefyd fusnes bach gwneud gemwaith o’r enw Miri Mwyn. 

Ar ôl derbyn cefnogaeth ar gyfer ei henwebiad yn ystod cyfarfod blynyddol y cyngor ddydd Mawrth, dywedodd y Cyng Dafydd: "Mae cael fy ethol fel cadeirydd y cyngor yn anrhydedd mawr a hoffwn ddiolch i fy nghyd gynghorwyr am roi eu ffydd ynof fi."

“Byddaf yn gweithio hyd eithaf fy ngallu i fod yn llysgennad da ar ran y cyngor sir, ein hynys a'i thrigolion. Dwi’n wir edrych ymlaen at fy mlwyddyn yn y swydd a chyflawni fy nyletswyddau dinesig gyda balchder mawr.”

Yn fam sengl, does gan Non ddim llawer o amser hamdden, ond mae’n mwynhau actio yn Theatr Fach, ac yn aml i’w gweld yng Nghlwb Rygbi Llangefni, yn tynnu lluniau a chreu fideos o rai o’r gemau.

Fel merch fferm, mae’n fwy cyfforddus mewn welis gyda’r anifeiliaid ac yn gwneud gwaith corfforol nac ydi’n mewn swyddfa.

Ond, fel cynghorydd, mae Non yn falch iawn o allu gweithio i helpu pobl ym mha bynnag ffordd posib ac yn cael pleser mawr o wneud hynny hefyd.

Etholwyd y Cyngohrydd Dafydd Rhys Thomas, sy'n cynrychioli ward Ynys Gybi, yn is-gadeirydd y cyngor ar gyfer 2025/26.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'