
Mae Ioan Caredig Thomas wedi cael ei ethol yn gadeirydd newydd Cyngor Gwynedd.
Yng nghyfarfod blynyddol y cyngor ar 1 Mai, etholwyd y cynghorydd Plaid Cymru, sy'n cynrychioli ward Menai yng Nghaernarfon.
Yn gynghorydd sir ers sawl blwyddyn, mae’r Cynghorydd Thomas wedi gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau, gan gynnwys cabinet y cyngor.
Cafodd y Cynghorydd Elin Walker Jones (Glyder, Bangor) ei hethol yn is-gadeirydd.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae hi’n fraint ac anrhydedd cael fy ethol yn gadeirydd Cyngor Gwynedd."
“Rwy’n edrych ymlaen, at wneud fy ngorau i wasanaethu a hybu gwaith y cyngor a holl drigolion Gwynedd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.”