Caergybi: arestio dynes am gario arf ymosodol

Monday, 15 September 2025 15:22

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae menyw wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gario arf ymosodol yng Nghaergybi.

Roedd yn dilyn adroddiadau cynharach am rywun wedi’u gweld yn cario bwyell yn ardal Kingsland y dref ddydd Llun.

Mae Cyngor Ynys Môn wedi cadarnhau bod dwy ysgol gynradd lleol - Ysgol Morswyn ac Ysgol Kingsland - wedi eu cloi lawr am "gyfnod byr iawn" ar gais yr heddlu bore Llun yn dilyn "pryder penodol yn yr ardal leol".

Mae dynes leol yn ei hugeiniau wedi cael ei arestio o fod hefo arf ymosdol yn ei meddiant.

Mae patrolau traed yn yr ardal i roi tawelwch meddwl, ond mae'r heddlu'n annog y cyhoedd i osgoi dyfalu tra bod ymchwiliadau'n parhau.

Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mi fuasem yn hoffi diolch i’r rhai hynny sydd wedi cysylltu hefo ni hefo gwybodaeth."

"Da ni’n sylweddoli faint o bryder mae hyn wedi’i achosi, a buasem yn hoffi tawelu meddwl y gymuned fod swyddogion yn parhau ar batrôl troed yn yr ardal leol."

"Gan fod ymchwiliad byw yn parhau, buasem yn gofyn i’r cyhoedd beidio dyfalu amgylchiadau’r digwyddiad."

Dwyeddod llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn: "Roedd y mesurau yn eu lle am gyfnod byr iawn ac fe agorodd y ddwy ysgol, gan fynd yn ôl i’r diwrnod arferol, unwaith yr oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau ei bod hi’n ddiogel i wneud hynny."

"Drwy gydol y cyfnod hwn, dilynodd yr ysgolion y canllawiau a’r gweithdrefnau perthnasol. Bu’r staff weithredu mewn modd cyflym a phriodol wrth i ddiogelwch disgyblion a staff barhau’n flaenoriaeth bob amser."

"Hoffai Cyngor Sir Ynys Môn ddiolch i ddisgyblion, rhieni a staff ynghyd ȃ chymuned ehangach yr ysgol am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Heddlu Gogledd Cymru am eu cefnogaeth a chymorth."

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu â 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod C144229.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'