
Bydd gwaith i ddiweddaru ystafell ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Caergybi yn dechrau wythnos nesaf.
Yn ôl Cyngor Ynys Môn, bydd £140,000 yn cael ei wario ar yr adnewyddu yn dilyn arbedion sylweddol a wnaed yn sgil ail drafod contractau ynni.
Bydd yr ystafell ffitrwydd yn cael ei diweddaru gydag offer TechnoGym modern, gan gynnwys peiriannau cardio modern a cryfer pin ac tair orsaf tunnu pwysau.
Mae'r datblygiad yn cael ei arwain gan Môn Actif, gwasanaeth hamdden y cyngor sir - a bydd yr holl beiriannau cryfder wedi'u hachredu gan yr IFI, gan sicrhau fod pobl ag anableddau hefyd yn gallu eu defnyddio.
Bydd llawr newydd yn cael i osod yn yr ystafell ardal cardio, a bydd gwaith paentio hefyd yn rhan o'r prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans, deilydd portffolio hamdden: "Rydym yn falch iawn o weld y buddsoddiad hwn yn dod i Ganolfan Hamdden Caergybi, fydd yn sicrhau bod trigolion yn cael defnyddio'r offer ffitrwydd mwyaf modern a chynhwysol bosib".
"Mae ymarfer corff cyson yn hollbwysig o ran cynnal iechyd a llesiant cyffredinol, ac rydym yn annog pawb i fanteisio ar y cyfleuster newydd unwaith fydd wedi ailagor. Mae'r buddsoddiad yn amlygu ein hymrwymiad i gefnogi cymunedau iachach ac mwy actif ar Ynys Môn".
Er y bydd yr ystafell ffitrwydd ar gau i'r cyhoedd o ddydd Mawrth 1 Gorffennaf, y bwriad yw y bydd yn ailagor ddydd Mawrth 15 Gorffennaf.
Bydd yr holl gyfleusterau eraill yng Nghanolfan Hamdden Caergybi ar agor fel arfer yn ystod y gwaith diweddaru.
Ychwanegodd Owain Jones, rheolwr hamdden Cyngor Ynys Môn: "Mae'r buddsoddiad hwn, gwerth £140,000, wedi dod yn uniongyrchol o arbedion a wnaed drwy ail drafod contractau ynni".
"Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad dan Gynllun y Cyngor 2023-28 i fuddsoddi mewn isadeiledd hamdden sy'n gwella mwynhad, cyfranogiad ac iechyd cymunedol."
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein haelodau'n ôl i ystafell ffitrwydd modern, mwy cynhwysol, yn fuan iawn."
I gefnogi aelodau, gall aelodau Debyd Uniongyrchol Nofio ac Ystafell Ffitrwydd ddefnyddio dosbarthiadau ffitrwydd yng Nghaergybi am ddim (rhaid archebu ger y dderbynfa).
Atgoffir aelodau hefyd y gallent ddefnyddio ystafelloedd ffitrwydd yng nghanolfan hmdden Amlwch, Plas Arthur a David Hughes yn ystod y gwaith.