
Mae heddlu wedi ymweld â siopau fêps, siopau barbwr a siopau hwylus Caergybi fel rhan o ymgyrch aml-asiantaeth.
Mae Ymgyrch Machinize yn fenter barhaus wedi'i chydlynu gan yr NCA er mwyn mynd i'r afael â gwyngalchu arian a busnesau stryd fawr sy'n delio ag arian parod yn bennaf.
Bu swyddogion lleol gyda chydweithwyr o reolaeth mewnfudo yn siarad â busnesau a thrigolion yn y dref am unrhyw bryderon a gwneud yn siŵr bod busnesau'n gweithredu'n gyfreithlon.
Dywedodd yr Arolygydd Wayne Francis o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid i wneud Caergybi yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld."
"Ar y cyfan, roeddem yn falch o weld mwyafrif y busnesau yn cael eu rhedeg yn gyfreithlon, yn ddiogel, ac yn cefnogi'r ymgyrch."
"Mae gweithrediadau fel hyn yn rhan o'n hymateb i'r materion hyn ac rwy'n annog unrhyw un sydd â phryderon am fusnesau yng Nghaergybi i gysylltu â ni."
Ychwanegodd yr Arolygydd Francis: "Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid a'r gymuned i atal fêps rhag cael eu rhoi i bobl ifanc."
"Fel rhan o'r gwaith hwn, fe wnaeth swyddogion gynnal gwarant mewn cysylltiad â'r digwyddiad dros y penwythnos a byddant yn parhau i weithredu yn dilyn gwybodaeth gan y gymuned yn y dyfodol."