Caergybi: ymgynghoriad yn decrhau ar ysgol uwchradd newydd

Friday, 6 June 2025 15:04

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar gynlluniau i ddarparu cartref newydd modern ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi.

Mae Cyngor Ynys Môn yn ceisio adleoli dysgwyr rhwng 11 a 18 oed i adeilad gwerth £66 miliwn erbyn mis Medi 2030.

Mae rhanddeiliaid sydd â chysylltiad ag Ysgol Uwchradd Caergybi yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar gynigion i greu adeilad newydd ger Canolfan Hamdden Caergybi (yn dibynnu ar gaffael y tir yn llwyddiannus). 

Prif amcanion yr adeilad newydd - fydd yn gallu derbyn 900 o ddisgyblion - fydd sicrhau:

  • cyfleusterau addysgu o safon dda a mwy o fannau gwyrdd agored.
  • bod digon o leoedd yn yr ysgol uwchradd i fodloni anghenion cyfredol disgyblion 11 i 18 oed, a’u hanghenion yn y dyfodol.

Cymeradwyodd Bwyllgor Gwaith Ynys Môn y broses ymgynghori statudol ar gyfer yr adeilad newydd fis diwethaf.

Bydd yn cynnwys sesiynau arbennig i gael adborth gan ddisgyblion, y cyngor ysgol, staff, llywodraethwyr, rhieni a rhanddeiliaid eraill ar y cynigion.

Dwyeddod y Cynghorydd Dafydd Roberts, deilydd portffolio addysg: "Mae’r ymgynghoriad statudol yn nodi cam cyntaf taith gyffrous tuag at fis Medi 2030."

“Mae’r cynigion yn cynrychioli ein hymrwymiad at ddyfodol addysg a’r iaith Gymraeg yng Nghaergybi a gweddill Ynys Cybi."

“Bydd derbyn adborth gan bawb sydd â chysylltiad ag Ysgol Uwchradd Caergybi yn allweddol o ran ein helpu ni i siapio’r prosiect hwn wrth symud ymlaen.”

Bu i ddarganfyddiad concrid RAAC (‘reinforced autoclaved aerated concrete’) yn adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi amharu’n sylweddol ar weithdrefnau’r ysgol ac addysg y plant rhwng Medi 2023 ac Ionawr 2024.

Mae hyn, law yn llaw â’r angen am wariant sylweddol ar gynnal a chadw, yn golygu bod yr adeilad presennol yn dod i ddiwedd ei oes. 

Eglurodd Aaron Evans, cyfarwyddwr cddysg y cyngor, Aaron C Evans: "Mae swyddogion wedi ystyried nifer o wahanol ddewisiadau ar gyfer y ddarpariaeth addysg uwchradd yn ardal Caergybi."

“Rydym wedi dod i’r casgliad mai adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi yw’r ffordd orau ymlaen."

"Byddai creu adeilad modern newydd yn golygu buddsoddiad sylweddol mewn addysg yng Nghaergybi a’r ardal dalgylch ehangach yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sector uwchradd yno."

"Byddai adeilad ysgol newydd gyda chyfleusterau modern arbenigol o’r radd flaenaf hefyd yn helpu sicrhau’r profiadau addysg gorau posib ac  ; ac yn cefnogi amcanion Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg y Cyngor Sir."

Bydd y broses ymgynhori statudol yn parhau tan dydd Mercher 17 Gorffennaf. Am rhagor o wybodaeth, ewch i gwefan Cyngor Ynys Môn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'