
Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod mewn dŵr yng Nghaernarfon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Stryd yr Eglwys ychydig ar ôl 7yb ddydd Mawrth.
Roedd rhan o'r ardal rhwng Doc Victoria a Chastell Caernarfon ar gau i'r cyhoedd am gyfnod ond mae wedi ail agor yn bellach.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae'r crwner lleol wedi cael gwybod ac mae ymchwiliad yn parhau.
Galwyd bad achub yr RNLI o Fiwmares i'r lleoliad, ynghyd â thimau Gwylwyr y Glannau o Fangor a Llandwrog.
Nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.