
Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaernarfon.
Cafwyd hyd i gorff gan y gwasanaethau brys mewn eiddo ar Lôn y Bryn brynhawn Sadwrn.
Aeth y criwiau tan o Fangor, Caernarfon, Caergybi a Llanberis i'r lleoliad toc wedi 3.45yp.
Nid yw'r dyn wedi cael ei enwi yn ffurfiol eto ond mae ei deulu wedi cael gwybod.
Mae ymchwiliad ar y cyd wedi cychwyn i achos y tân ac mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ddod ymlaen.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Burrow o Heddlu Gogledd Cymru: "Cydymdeimlwn â theulu'r dyn sy'n cael eu cefnogi gan swyddogion."
"Mae ymchwiliad ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael ei lansio i ganfod achos y tân, ac mae'r crwner wedi cael gwybod."
Ychwanegodd llefarydd ar ran yr Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg anodd iawn hon."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu cyfeirnod C127317.