Bydd Cân i Gymru 2026 yn cael ei gynnal ar faes Sioe Môn ym Mona, mae S4C wedi cadarnhau.
Mae cystadleuaeth gyfansoddi wedi agor i geisiadau, gyda'r darllediad y ffeinal yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror.
Dyma fydd y tro cyntaf mewn deg mlynedd i'r gystadleuaeth ddychwelyd i Ynys Môn.
Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst, ond hyd yn hyn, nid yw'r lleoliad wedi'i gadarnhau.
Bydd maes sioe Mona hefyd yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mis Mai.
Mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i gyfansoddwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu eu doniau cerddorol a chystadlu am deitl eiconig Cân i Gymru 2026.
Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws y gystadleuaeth a gwobr ariannol o £5,000, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.
Yn ôl i gadeirio panel y rheithgor mae Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr: "Dwi mor gyffrous bod Cân i Gymru yn dod i Ogledd Cymru unwaith eto."
"Dwi’n annog pob un o bob oedran i drio, yn enwedig os ydych chi mewn band ifanc. Cerwch amdani! Peidiwch a meddwl am gyn-enillwyr, mi ydyn ni isio clywed be’ sydd gennych CHI i’w ddweud."
Yn ymuno ag Osian ar y rheithgor eleni, mae Barry ‘Archie’ Jones o’r band Celt, y canwr a'r cyfansoddwr Mali Hâf, y cyflwynydd Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard.
Dywedodd Mali Hâf: "Ro’n i wrth fy modd i gael gwahoddiad i fod ar reithgor Cân i Gymru. Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn rhan o fy nhaith fel cerddor. A fel cerddor fy hun, dwi’n gwybod pa mor sbesial yw hi i ysgrifennu cân."
"Dwi’n edrych ymlaen at glywed miwsig newydd sbon a tiwns sydd heb weld golau dydd eto. Dwi’n caru arbrofi wrth gyfansoddi felly dwi’n awyddus i glywed amryw o genres. Dwi’n chwilio am liw, stori, dychymyg a rhywbeth bachog sy’n mynd i aros yn fy mhen."
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr y llynedd, y band Dros Dro o Sir Gaerfyrddin oedd yn fuddugol gyda'r gân 'Troseddwr yr Awr'.
Dyweddod Efa o'r band: "Ces i fy magu yn gwylio Cân i Gymru. Ers dwi’n gallu cofio - bob mis Mawrth yn gwylio Cân i Gymru."
"Mae’r buddiannau o fod yn rhan o rywbeth mor fawr a sydd wedi bod yn mynd am gymaint o flynyddoedd - mi all newid eich bywyd chi, fel mae wedi newid bywydau ni."
"Mae’n agor drysau i gyfleoedd hollol ffantastig, bysen ni byth wedi cael os nad oedden ni wedi trio, felly ewch ati i ‘sgwennu cân sydd yn meddwl rhywbeth i chi a cerwch amdani!"
Unwaith eto, bydd y sioe yn cael ei chyflwyno gan Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur, a enillodd y gystadleuaeth yn 2003 gyda 'Harbwr Diogel', un o'r caneuon enwocaf yn ei hanes.
Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Sul 4 Ionawr. Er mwyn cystadlu, ewch draw i wefan S4C am ragor o wybodaeth, telerau ac amodau a ffurflen ymgeisio.
Bydd tocynnau cynulleidfa ar gyfer y gystadleuaeth yn cael eu rhyddhau yn fuan.


UNESCO yn dathlu 80 mlynedd
Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR