Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer

Tuesday, 17 February 2026 13:28

By Ystafell Newyddion MônFM

Afanti / S4C

Mae rhestr fer caneuon Cân i Gymru 2026 wedi cael ei chyhoeddi cyn y gystadleuaeth ym Mona ar ddiwedd y mis.

Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno'r gystadleuaeth a fydd, am y tro cyntaf ers dros ddeng mlynedd, yn cael ei chynnal yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror.

Yn ôl i gadeirio panel y rheithgor mae Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr.

Yn ymuno ag Osian ar y rheithgor eleni, mae Barry ‘Archie’ Jones o’r band Celt, y gantores a'r gyfansoddwraig Mali Hâf, y cyflwynydd Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard.

Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws y gystadleuaeth a gwobr ariannol o £5,000, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.

Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu eleni yw:

  1. Storm Heno gan Rhodri Lloyd Evans
    Rhodri Lloyd Evans, Prifathro Ysgol Pentrefoelas, yw cyfansoddwr y gân. Mae Rhodri’n byw ym Mylchau ger Dinbych ac wrth ei fodd yn cyfansoddi. Y stori tu ôl i’r gân yw bod pethau mewn bywyd yn dal i fyny gyda phawb a bod canlyniad i hynny.
    Mae Rhodri’n gobeithio bydd y gân fachog yn aros yng nghof y gwrandawyr ac mae o wedi addo i’w ddisgyblion y byddai’n prynu dau grwban i Ysgol Pentrefoelas petai’n ennill! Rhodri fydd yn perfformio'r gân ar y noson.
  2. Chwilio am Ffordd Adra gan Geth Tomos, Henry Priestman, John Beck, Adam Dennis ac Emlyn Gomer
    Emlyn Gomer sydd wedi ysgrifennu geiriau’r gân. Dyma’r tro cyntaf i Geth ac Emlyn weithio gyda’i gilydd ar ôl iddyn nhw gwrdd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2022 ble ddaeth Emlyn yn drydydd gyda’r gân ‘Rhyfedd o Fyd’ a Geth yn ail gyda’r gân ‘Cana Dy Gân’.
    Mae’r gân yn trafod profiadau bywyd fel methiant, ond mae yna obaith a’r gobaith hynny yw neges y gân. Y gantores Lowri Evans fydd yn perfformio’r gân.
  3. Dalen Newydd gan Rhi Jorj a Gwynedd Maesywaun
    Yr artist o’r Bala a chyn-aelod y bandiau Amledd ac Ust, Rhi Jorj, yw cyfansoddwraig y gân ‘Dalen Newydd’. Mae Rhi yn gyn-athrawes yn Ysgol Y Berwyn, ond bellach yn cyfansoddi yn llawn amser. Y Bardd Gwynedd Huws Jones (Gwynedd Maesywaun) sydd wedi ysgrifennu geiriau’r gân.
    Y stori tu ôl i’r gân yw fod pawb yn haeddu tudalen newydd, beth bynnag sy’n digwydd mewn bywyd. Y gobaith yw y bydd yna adeg lle mae heddwch yn dod at ddrws pawb. Rhi Jorj bydd yn perfformio’r gân ar y noson.
  4. Dwisho Deud gan Ruby ac Endaf
    Yr artist o Ddeiniolen, Ruby, a’r DJ a’r cynhyrchydd cerddoriaeth o Gaernarfon, Endaf, yw cyfansoddwyr y gân ‘Dwisho Deud’. Roedd y ddau wedi cyfarfod pan oedd Endaf yn gweithio yng Ngholeg Menai a Ruby mewn band yn y coleg.
    Dyma ail brosiect y ddau gyda’i gilydd ar ôl rhyddhau’r gân ‘To You, From Me’ llynedd. Mae’r gân ‘Dwisho Deud’ yn sôn am y pethau mae rhywun eisiau dweud wrth hen ffrind sydd bellach ddim yn ffrind. Bydd Ruby yn perfformio’r gân ar y noson.
  5. Byd Fy Hun gan Dan Williams
    Dan Williams, cyn-aelod o’r bandiau Y Promatics a Hudo, yw cyfansoddwr y gân ‘Byd Fy Hun’. Yn wreiddiol o Groeslon, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Dan wrth ei fodd yn cyfansoddi caneuon ac mae ‘Byd Fy Hun’ yn gân bop am berthynas sydd wedi dod i ben a sut i symud ymlaen.
    Dyma’r tro cyntaf i Dan berfformio ar ben ei hun heb fand, ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at gamu ar lwyfan Cân i Gymru.
  6. Hiraeth gan Lowri Clancy Davies
    Lowri Clancy Davies yw cyfansoddwraig y gân ‘Hiraeth’. Symudodd Lowri o Gymru i Dungarvan yn Iwerddon yn 10 mlwydd oed ac wedi cael ei magu yn gwrando ar gerddoriaeth werin.
    Mae’r gân am brofiad Lowri o deithio o gwmpas y byd a gadael ffrindiau a theulu tu ôl, a’r hiraeth sydd ganddi amdanynt a’i chartref yng Nghymru.
    Enillodd tad Lowri, Ryland Teifi, cystadleuaeth Cân i Gymru 20 mlynedd yn ôl yn 2006 gyda’r gân ‘Lili’r Nôs’. Bydd Lowri yn perfformio’r gân ar y noson gyda’i chwaer, Cifa.
  7. Y Gwanwyn Bach gan Rhydian Meilir a Myrddin ap Dafydd
    Cyn-enillydd Cân i Gymru, Rhydian Meilir yw cyfansoddwr y gân ‘Y Gwanwyn Bach’. Mae Rhydian yn wyneb cyfarwydd i’r gystadleuaeth ac wedi cyrraedd rhestr fer y gystadleuaeth yn 2012 gyda ‘Cynnal y Fflam’, yn 2019 gyda ‘Gewn ni Weld Sut Eith Hi’, dwy gân ar restr fer 2020 sef ‘Pan Fyddai'n 80 Oed’ a ‘Tir a'r Môr’ ac yna ennill yn 2022 gyda ‘Mae Yna Le’.
    Y prifardd Myrddin ap Dafydd sydd wedi ysgrifennu’r geiriau cyn i Rhydian fynd ati i roi’r alaw at ei gilydd a chynhyrchu’r gân. Jacob Elwy a Lleucu Gwawr fydd yn perfformio’r gân.
  8. Y Gân gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer
    Cyfansoddwyr y gân yw Geth Tomos a Henry Priestman ac Emlyn Gomer ysgrifennodd y geiriau. Dyma’r ail gân gan y tri sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Fe gollodd Emlyn 3 ffrind yn sydyn iawn ac roedd hynny yng nghefn ei feddwl wrth ysgrifennu geiriau’r gân.
    Y linell ‘Ond er bod bywyd wedi dwyn dy lais’ symudodd y gân yn ei flaen. Mae Geth yn ei disgrifio hi fel anthem o gân. Y gantores Sara Owen fydd yn perfformio’r gân.

Fleur De Lys fydd yn agor y rhaglen a bydd perfformiad arbennig gan Cordia, ddeng mlynedd ers iddyn nhw ennill y gystadleuaeth gyda’r gân ‘Dim Ond Un’.

Fel llynedd, bydd modd i wylwyr bleidleisio drwy ddefnyddio’r gwasanaeth pleidleisio ar-lein am ddim.

Gellir pleidleisio gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar a’r ddolen: s4c.cymru/canigymru. Yr unig beth fydd ei angen fydd cysylltiad â’r wê a chyfeiriad e-bost dilys. 

I'r rhai sydd am bleidleisio ar ffôn clyfar, bydd côd QR ar y sgrin yn ystod y rhaglen fyw i'w cyfeirio'n uniongyrchol at y wefan bleidleisio. Unwaith ar y dudalen, gall gwylwyr glicio ar y blwch pleidleisio i ddewis eu hoff gân. Dim ond un bleidlais i bob cyfeiriad e-bost a ganiateir.

Wedi i wylwyr gadarnhau eu dewis a bwrw pleidlais trwy ddilyn y camau o nodi enw, côd post a chyfeiriad e-bost, bydd angen dilysu e-bost er mwyn cwblhau’r broses.

Bydd Cân i Gymru 2026, cynhyrchiad Afanti, ymlaen ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar nos Sadwrn 28 Chwefror am 8yh. Mae tocynnau cynulleidfa ar gael am ddim ar-lein.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Miwsig MônFM

    6:00pm - 7:00pm

    Y gerddoriaeth orau ar MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'