Mae dyn ifanc wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad honedig yng nghanol dinas Bangor dros y penwythnos.
Cafwyd hyd i dyn yn anymwybodol ar Stryd Fawr gan swyddogion patrôl toc wedi 3yb bore Sul.
Aethpwyd â'r dyn i'r ysbyty i gael triniaeth ac mae wedi cael ei ryddhau ers hynny.
Fe gafodd dyn 19 oed ei arestio yn hwyrach ar amheuaeth o ymosod ac mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliadau'r heddlu'n parhau.
Mae ditectifs yn apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â lluniau i ddod ymlaen.
Dywedodd yr Arolygydd Jamie Owens: "Rydw i'n apelio i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â fideo i gysylltu gyda ni."
"Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad gysylltu gyda ni ar ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 0020211."


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi