Carchar i ddyn am dreisio merch yn ei harddegau

Wednesday, 11 June 2025 18:59

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Gaernarfon wedi ei garcharu am dreisio merch 15 oed ddegawd yn ôl.

Plediodd Kyle Parry, 29 oed, yn euog i dreisio ac ymosod rhywiol trwy dreiddiad yn ei gartref yn 2015.

Mi gafodd Parry, sy'n byw yn Huddersfield, oedd efo euogfarnau blaenorol am ymosod yn rhywiol ar fachgen pump oed yn 2017, ddedfryd o wyth mlynedd a naw mis yn y carchar am y troseddau hanesyddol.

Dywedodd Ditectif Gwnstabl Dominique Swift o Heddlu Gogledd Cymru: "Mi hoffwn i ganmol dewrder y dioddefwr yn yr achos hwn, ac am ymddiried ynddo ni ac am siarad efo ni."

"Mi ddangosodd hi ddewrder rhyfeddol yn y llys heddiw, ac mi ddewisodd hi ddarllen ei datganiad personol dioddefwr yn uniongyrchol i’r dyn oedd wedi ymosod arni hi."

"Mae hyn yn neges i bobl eraill sydd efallai’n dioddef mewn distawrwydd. Mi wnawn ni wrando. Mi wnawn ni bob dim allwn ni er mwyn dod â’r rhai sy’n peri niwed rhywiol o flaen eu gwell. ‘Da ni yma er mwyn eich cynorthwyo chi."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Suliau'r Soffa

    2:00pm - 4:00pm

    Ymlaciwch ar brynhawn Sul yng nghwmni Llion ar MônFM.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'