
Mae dyn o Gaergybi a dorrodd amodau gorchymyn diogelu cam-drin domestig (DAPO) wedi ei garcharu am flywddyn.
Mi ymddangosodd Tom Webster, 41 oed, yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth, lle mi wnaeth gyfaddef torri amodau DAPO.
Mi ddyfarnwyd y gorchymyn yn Llys Ynadon Llandudno ar 19 Mai, yn gwahardd Webster rhag cyfathrebu efo’i gyn gymar neu o fod o fewn 100 medr o’i chartref am gyfnod o dri mis.
Fodd bynnag, lai na thair wythnos yn ddiweddarach, mi welwyd Webster efo’i gyn gymar yng Nghaergybi ar 8 Mehefin.
Cafodd ei arestio ar yr un diwrnod
Ers diwedd mis Ebrill, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn rhan o gynllun peilot DAPO.
Mae yn orchymyn llys cyfreithiol wedi’i ddylunio er mwyn diogelu dioddefwyr rhag pob math o gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin nad ydy’n gorfforol, ac ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol - ac mae torri amodau DAPO yn drosedd.
Dywedodd Rhingyll Chris Burrow o Heddlu Gogledd Cymru: “Webster ydy’r unigolyn cyntaf i dderbyn dedfryd i’r carchar ers i Heddlu Gogledd Cymru ymuno efo’r cynllun peilot DAPO ar 28 Ebrill."
“Mi wnawn ni barhau i ymgeisio am y gorchmynion fel bo’n briodol, er mwyn diogelu dioddefwyr rhag niwed pellach."
“Mi anwybyddodd Webster y gorchymyn sy’n dangos ei ddiffyg parch tuag at y system gyfiawnder, a ‘dwi’n gobeithio’i fod yn adlewyrchu ar ei ymddygiad."
“Ni fyddwn ni’n goddef unrhyw fath o gam-drin domestig ac mi wnawn ni gynorthwyo unrhyw un sy’n cael profiad o gamdriniaeth yn llwyr.”