Carchar i ddyn o Gaergybi ar ôl saethu cymydog

Friday, 12 September 2025 17:08

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Gaergybi wedi cael ei garcharu am saethu ei gymydog efo dryll aer.

Plediodd Tom Webster yn euog i anafu ddyn arall ar Res Fictoria ar Ddydd Calan 2023.

Mi roedd Webster, 41 oed, yn yr ardal pan saethodd ei gymydog yn ei wyneb efo dryll aer.

Yna, mi geisiodd frathu clust y dioddefwr a’i saethu eto yn ei frest, gan achosi iddo fod angen llawdriniaeth yn ddiweddarach.

Mi gafodd Webster ei arestio’n ddiweddarach y noswaith honno.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, mi gafodd ei garcharu am 12 mis ac mi gafodd orchymyn atal er mwyn gwarchod y dioddefwr sy’n para pum mlynedd.

Dywedodd Ditectif Gwnstabl Cara Williams o Heddlu Gogledd Cymru: “Mi roedd hwn yn ymosodiad direswm ar ddyn oedd yn mynd â’i gi am dro yn ei ardal leol."

"Mae’r digwyddiad hwn yn bendant wedi cael effaith barhaus ar ymdeimlad y dioddefwr o fod yn ddiogel, a dwi’n gobeithio bod y canlyniad yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl iddo fo."

"Mae Webster wedi profi ei fod yn unigolyn peryglus. Mae ei ymddygiad yn hollol annerbyniol, ac ni fyddwn ni’n goddef trais o'r fath."

"Mae digwyddiad fel hyn yn brin ar Ynys Môn, ond mi fuaswn i’n annog unrhyw un efo gwybodaeth ynglŷn ag unigolion yn cario arfau i gysylltu efo’r heddlu neu Crimestoppers yn ddienw."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • The Connections Show

    8:00pm - 10:00pm

    Punk to funk... and everything in between....

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'