Mae dyn o Fangor wedi cael ei garcharu am flwyddyn ar ôl rheoli ymddygiad tuag at ei gyn gymar.
Yn Llys Ynadon Llandudno, plediodd Carl Thomas, 44 oed, o Maesgeirchen, yn euog i ymosod ac ymddwyn yn rheolaethol a gorfodol.
Roedd perthynas Thomas hefo'i gyn gymar wedi dod i ben ar ôl iddo gael ei garcharu am ymosod arni o'r blaen.
Fodd bynnag, ceisiodd ei rheoli trwy chwilio trwy ei heiddo personol a ffonio ei man gwaith yn mynnu gwybod lle roedd hi.
Gofynnodd y ddynes i Thomas adael ei chartref ar ôl iddo droi i fyny yn feddw, ond gwrthododd a daeth tuag ati hefo dwrn wedi'i godi. Cafodd ei wthio allan o'r tŷ.
Cafodd Thomas orchymyn atal am chwe blynedd i amddiffyn ei ddioddefwr.
Dywedodd Ditectif Ringyll Geraint Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd yr hyn a wnaeth Thomas dro ar ôl tro er mwyn rheoli a dychryn ei gyn gymar yn frawychus iddi hi a'i theulu hi."
"Dwi'n canmol ei dewrder hi am ddod ymlaen a cheisio help er gwaethaf profiad mor ofidus. Gobeithio y bydd dedfryd Thomas yn rhoi rhywfaint o sicrwydd iddi hi."
"Dwi'n annog unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig i geisio help. Byddwn ni'n gwrando arnoch chi ac yn ymchwilio'n llawn i unrhyw adroddiad 'da ni'n ei dderbyn."


Ymestyn gorchymyn diogelu ym Mangor
Mwy o arian i ailwampio Ysgol Tryfan
Carcharu dyn o Lanystumdwy am stelcio
Cyngor yn wynebu dirwy am fethu targed ailgylchu
Dysgwyr yn codi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd