
Mae dyn o Bentraeth a wnaeth boeri yn llygad heddwas wedi cael ei garcharu am flwyddyn.
Cafodd Stephen Vickery ei arestio oherwydd ei fod yn cael ei alw yn ôl i'r carchar ym mis Mai.
Yn llys ynadon Llandudno, pleidiodd Vickery, 40 oed, yn euog i ddau gyhuddiad o ymosod trwy guro gweithiwr brys.
Wrth i swyddogion roi gefynnau o amgylch ei arddyrnau dechreuodd ymddwyn yn dreisgar tuag atynt, gan eu cicio a'u dyrnu.
Parhaodd Vickery i wrthsefyll cael ei arestio cyn poeri'n uniongyrchol i lygad swyddog heddlu.
Yn dilyn y ymosodiad, un o'r swyddogion bellach yn cael asesiadau meddygol i weld os bydd yn dioddef unrhyw broblemau iechyd yn sgil y digwyddiad.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis: "Er bod y canlyniad yn y llys heddiw yn rhoi rhywfaint o gyfiawnder i fy nghydweithwyr, bydd digwyddiad o'r fath yn amlwg yn cael effaith hirdymor ar fywydau'r swyddogion; yn bersonol ac yn broffesiynol."
Ychwanegodd: "Ni fyddaf yn goddef ymosodiadau yn erbyn ein swyddogion, sy'n ddewr ac yn rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd; dyma farn sy'n cael ei rhannu gan ein harweinwyr uwch o fewn Heddlu Gogledd Cymru."
"Mae'r swyddogion dan sylw yn cael eu cefnogi gan y sefydliad a Ffederasiwn yr Heddlu."