Carcharu dyn o Fangor am ymosodiad treisgar

Friday, 5 December 2025 23:36

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Fangor wedi cael ei garcharu yn dilyn ymosodiad treisgar ar dynes yn ei chartref.

Plediodd Jamie Cowell, 39 oed, yn euog hefyd i dorri gorchymyn atal ac achosi difrod troseddol yn dilyn aflonyddwch mewn eiddo ar Ynys Môn fis diwethaf.

Mi aeth swyddogion yr heddlu yno ar ôl cael hysbysiadau o aflonyddwch yn yr eiddo, ac mi ganfu’r ddynes y tu fewn efo anafiadau ar ei hwyneb a gwaedu sylweddol.

Mi ddywedodd hi wrth swyddogion ei bod hi’n ofni am ei bywyd ar ôl ymosodiad treisgar Cowell, a’r bygythiadau wnaeth o tuag ati hi.

Mi gafodd Cowell ei arestio ac yna’i gyhuddo o’r ymosodiad. Mi roedd hefyd wedi difrodi teledu, dodrefn a drych yn ystod y digwyddiad.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, mi gafodd dedfryd o 16 mis yn y carchar ac mi dderbyniodd orchymyn gwarchod cam-drin domestig (DAPO) sy’n para 20 mlynedd.

Dywedodd Ditectif Arolygydd Trystan Davies o Heddlu Gogledd Cymru: "Mi roedd hwn yn ddigwyddiad  brawychus a gofidus lle wnaeth dynes ddioddef ymosodiad treisgar yn ei chartref hi ei hun."

"Ni ddylai unrhyw un byth deimlo’n anniogel yn eu cartref nhw’u hunain, yn enwedig oherwydd rhywun sy’n dewis defnyddio trais a chodi ofn."

"’Da ni’n cymeradwyo dewrder y dioddefwr wrth ddod atom ni a gweithio efo’r swyddogion ymchwilio. Da ni’n parhau ymrwymo’n llwyr i warchod dioddefwyr cam-drin domestig a dod â throseddwyr o flaen eu gwell."

"Da ni’n annog unrhyw un sy’n profi cam-drin, neu’n pryderu ynglŷn â lles rhywun arall i gysylltu efo ni – mi wnawn ni wrando, rhoi cymorth i chi a gweithredu."

Mae’r orchymyn DAPO yn gwahardd Cowell rhag cysylltu’r dioddefwr drwy unrhyw fodd hyd ei ddiwedd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'