Mae dyn o Llanystumdwy wedi cael ei garcharu am stelcio a bygwth dynes.
Roedd Dale Selby eisoes yn wynebu dedfryd ohiriedig o garchar am fyrgleriaeth.
Ym mis Medi, anfonodd Selby negeseuon llais bygythiol a sarhaus i ddynes ar ôl honni ei bod wedi anfon arian ato i'r cyfrif banc anghywir.
Mi wnaeth y dyn 37 oed dorri drws ei thŷ i lawr ac ymosod ar y ddynes a'i gŵr.
Parhaodd Selby i anfon sawl nodyn llais bygythiol ar ei ffôn at y ddynes, gan ei gadael mewn ofn y byddai yn dreisgar tuag ati.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth, cafodd Selby ei garcharu am chwe mis am y troseddau stelcian a derbyniodd Orchymyn Amddiffyn Cam-drin Domestig (DAPO) am bum mlynedd.
Cafodd ei garcharu hefyd am ddwy flynedd am actifadu dedfryd ohiriedig am fyrgleriaeth flaenorol.
Dywedodd yr Arolygydd Iwan Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ymddygiad Selby tuag at ddynes a oedd yn ceisio ei helpu yn warthus."
"Ni fydd bygythiadau o drais tuag at ferched a genethod yn cael eu goddef a byddwn yn parhau i erlid pawb sy'n gwrthod parchu'r gyfraith."
"Rwy'n annog unrhyw un sy'n profi bygythiadau o drais i ddod ymlaen a cheisio cymorth gennym ni." Byddwn yn gwrando ac yn ymchwilio i'ch adroddiad."


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi