
Mae dyn a wnaeth gam-drin dau fachgen yn rhywiol tra'n gweithio mewn ysgol wedi cael ei garcharu am bedair blynedd.
Roedd Jonathon Evans o Falltraeth, ger Bodorgan, wedi gwadu targedu'r ddau rhwng 2017 a 2020, ond fe'i cafwyd yn euog o naw cyhuddiad.
Ar y pryd, roedd yn gweithio fel technegydd mewn ysgol ar Môn ac yn gwirfoddoli fel Cadeitiaid Awyr gyda'r RAF.
Ychwanegodd y ddau fachgen ar Snapchat cyn anfon delweddau rhywiol ohono'i hun at un ohonynt, gan ofyn i'r bachgen anfon delweddau tebyg iddo yntau.
Ar achlysuron eraill ceisiodd afael yn organau rhywiol y bechgyn.
Cafwyd Evans yn euog o bedwar cyhuddiad o annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, tri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol a dau gyhuddiad o gam-drin sefyllfa o ymddiriedaeth er mwyn cyflawni gweithgaredd rhywiol.
Yn dilyn y ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, dyweddod y Ditectif Gwnstabl Richard Dwyfor Clark o Heddlu Gogledd Cymru: "Cyflawnodd Jonathon Evans droseddau rhywiol difrifol yn erbyn plant yn ei ofal fel arweinydd cadetiaid ac aelod o staff yr ysgol."
"Yng nghanol yr achos hwn mae grŵp o bobl ifanc a'u teuluoedd. Hoffwn ddiolch iddynt am ddangos urddas a phenderfyniad wrth ddod â'r troseddwr hwn o flaen ei well heddiw."
"Roedd Evans yn ddyn hunanol a pheryglus a wnaeth gam-drin ei sefyllfa o ymddiriedaeth i ecsbloetio a niweidio plant."
"Hoffwn hefyd ddiolch i dîm cyfreithiol yr erlyniad, y Llys a GEG am eu gwaith yn yr achos hwn, yn ogystal â'r Cadetiaid Awyr a'r ysgol sydd wedi cefnogi'r ymchwiliad hwn drwy'r holl achos."
"Os ydych chi'n amau bod rhywun yn cael ei gam-drin yn rhywiol, neu os ydych chi wedi profi cam-drin eich hun, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru. Byddwn yn cymryd eich hanes o ddifri ac yn eich cefnogi."
Mae Evans hefyd wedi derbyn gorchymyn atal niwed rhywiol sy'n para am gyfnod gyfnod amhenodol a rhaid iddo gofrestru gyda'r heddlu.
Cafodd hefyd ei wneud yn destun gorchmynion atal sy'n amddiffyn y dioddefwyr am gyfnod amhenodol.