Chwe dyn yn y llys ar gyhuddiadau cyffuriau

Thursday, 11 December 2025 11:12

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae chwe dyn wedi ymddangos yn y llys yn dilyn cyfres o gyrchoedd cyffuriau yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Cafodd deg o bobl eu harestio fel rhan o ymchwiliad hirhoedlog i'r cyflenwad ar raddfa fawr o gocên a chanabis yn y rhanbarth.

Gwnaeth swyddogion gasglu symiau sylweddol o gyffuriau Dosbarth A a B, ynghyd ag arian parod ac asedau gwerth uchel gwerth £118,000 yn ystod Ymgyrch Macondo.

Mae'r ymchwiliad manwl a hirdymor wedi canolbwyntio ar weithgareddau pobl dan amheuaeth yn ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.

Cynhaliwyd gwarantau ychwanegol ar yr un pryd ym Manceinion a Glannau Mersi fel rhan o'r gwaith plismona ar y cyd.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Arwel Hughes o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r gwarantau ar y cyd a weithredwyd heddiw yn dangos ein hymrwymiad i ddatgymalu'r rhwydweithiau troseddol sy'n ecsbloetio pobl bregus ac yn achosi niwed i'n cymunedau."

"Mae'r dull cadarn hwn o fynd i'r afael â materion allweddol a nodwyd gan gymunedau lleol yn barhad o'r gwaith aml-asiantaethol y mae ein heddlu wedi'i wneud gyda phartneriaid yn ystod Ymgyrch Renew Bangor."

"Mae cefnogaeth gan asiantaethau lleol, ynghyd â mewnbwn sylweddol gan breswylwyr, cymdeithasau tai a grwpiau cymunedol wedi bod yn hanfodol yn ystod y cyfnod hwn."

"Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn ganolog i'n llwyddiant, a byddwn yn parhau i weithio'n rhagweithiol ac yn ddyfal i nodi, tarfu, ac erlid y rhai yr amheuir eu bod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn ein dinasoedd, a’n trefi a’n pentrefi."

O'r rhai a gafodd eu harestio, cafodd chwech o ddynion eu cyhuddo o sawl trosedd:

  • Mae Gareth Trevor Rowlands, 52 oed, o Llanfairpwll, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth A, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth B, a meddu ar eiddo troseddol.
  • Mae Steven Powell, 62 oed, o Stockport, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth A, a dau gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth B.
  • Mae Joseph McCormick, 34 oed, o Bootle, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth A, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth B, a meddu eiddo troseddol.
  • Mae Craig Harris, 51 oed, o Llanfairpwll, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth B.
  • Mae Steven Williams, 44,oed, o Caernarfon, wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth A.
  • Mae Dennis Edwards, 22 oed, o Cyffordd Llandudno, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth B, a meddu eiddo troseddol.

Yn llys ynadon Llandudno ddydd Mercher, cafodd y chwech eu cadw yn y ddalfa.

Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Arwel Hughes: "Mae cyffuriau yn difetha cymdogaethau, yn dinistrio bywydau, ac yn creu cylchoedd o gamfanteisio."

"Mae'r rhai sy'n ceisio gwerthu cyffuriau i bobl fregus nid yn unig yn torri'r gyfraith – maen nhw'n parhau â'r niwed sy'n dinistrio teuluoedd ac yn tanseilio diogelwch cymunedol."

"Mae ‘r gwaith heddiw yn adlewyrchu ymroddiad a phroffesiynoldeb ein swyddogion, yn ogystal â'r rôl hanfodol y mae'r cyhoedd yn ei chwarae wrth rannu gwybodaeth gyda ni."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Saturday Breakfast with Paul Hughes

    8:00am - 11:00am

    Join Paul as he kick-starts the weekend across Anglesey and Gwynedd! He's got great songs and local information to start your morning.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'