
Mae chwiliadau’n parhau yn Afon Menai am ddynes 22 oed sydd ar goll.
Cafodd Gwenno Ephraim ei gweld ddiwethaf yn ardal Bangor Uchaf nos Lun (28 Gorffennaf) a chredir iddi gerdded tuag at Borthaethwy.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae'n bosibl ei bod wedi mynd i mewn i i ddyfroedd Afon Menai.
Mae'n ymddangos bod lluniau CCTV a adolygwyd gan ditectifs yn dangos Gwenno yn cerdded ar ei phen ei hun rhwng 10.20pm ac 11.10pm nos Lun.
Roedd Gwenno yn gwisgo yn gwisgo trowsus loncian llwyd, hwdi llwyd a trainers du.
Cafwyd hyd i eiddo personol, y credir eu bod yn perthyn i Gwenno, ar Bont Borth fore Mawrth.
Mae'r chwilio o gwmpas afon Menai yn parhau, yn dilyn sawl diwrnod yn ceisio dod o hyd iddi. Ond er gwaethaf ymholiadau trylwyr, mae'r ymdrechion i ddod o hyd i Gwenno wedi bod yn aflwyddiannus hyd yn hyn.
Mae hofrennydd Gwylwyr y Glannau yng Nghaernarfon wedi bod yn rhan o'r chwilio ers bore Mawrth, ynghyd â chriwiau RNLI o Fiwmares a Moelfre a thimau gwylwyr y glannau symudol o Fangor, Llandwrog a Phenmon.
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddiflaniad Gwenno yn parhau i ystyried sawl posibiliad wrth geisio olrhain ei symudiadau."
"Mae teulu Gwenno wedi cael gwybod am yr amgylchiadau a arweiniodd at ei diflaniad a byddwn yn parhau i'w cefnogi wrth i'r ymchwiliad hwn fynd rhagddo."
"Cydymdeimlwn gyda phob aelod o'r teulu ar yr adeg anodd hwn. Rydym yn cydnabod y gofid ac effaith emosiynol yr ymchwiliad hwn, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r teulu gyda swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig."
"Mae ein hymholiadau hyd yma yn gwneud i ni gredu y gallai Gwenno fod wedi mynd i mewn i ddyfroedd Afon Menai."
Ychwanegodd: "Hoffem glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld Gwenno gyda'r hwyr ar 28 Gorffennaf, neu a allai fod â lluniau camera cerbyd ohoni yn cerdded o ardal Bangor."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod iTrace 51505.