
Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal i fynychu digwyddiad recriwtio anffurfiol ar gyfer gweithwyr preswyl yn y cartref plant newydd yn Ninorwig.
Bydd y digwyddiad galw-heibio yn cael ei gynnal rhwng 4 a 7pm, ddydd Mercher, 16 Gorffennaf yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon.
Bydd y sesiwn yn gyfle i bobl o bob oed sy’n awyddus i adeiladu gyrfa yn y maes gofal i gwrdd â’r tîm a chael sgwrs anffurfiol am y swyddi sydd ar gael a’r hyn mae gweithio yn y sector hanfodol hwn yn ei olygu.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, aelod y cabinet dros plant: "Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a phobl ifanc Gwynedd i ffeindio allan am y cyfleodd gwaith sydd ar gael."
"Rydym yn chwilio am bobl ofalgar, ymroddedig, sydd yn barod am her newydd."
“Rydym yn croesawu pobl sydd ar ddechrau eu gyrfa a rheini sy’n awyddus i newid trywydd ac am ddod a’u profiadau o feysydd eraill gyda hwy. Bydd pob profiad o fyd addysg, gwaith a bywyd yn cyfoethogi’r hyn allwn ei gynnig blant a phobl ifanc bregus."
“Mae Cyngor Gwynedd yn le gwych i weithio – fel sefydliad rydym yn falch o fod yn gyflogwr cefnogol ac uchelgeisiol, gan gynnig cyfleoedd datblygu, pecyn buddion deniadol, a’r cyfle i ennill wrth ddysgu."
"Byddai cyfle i unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i dyfu a ffynnu yn eu gyrfaoedd.”
Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth yn y maes gofal, ewch i’r wefan Cyngor Gwynedd neu anfonwch e-bost at gofalu@gwynedd.llyw.cymru