
Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn gweithio yn y maes gofal yn ardal Bangor i ddigwyddiad galw heibio.
Mae awdurdod lleol yn recriwtio ar gyfer rolau gweithwyr gofal a cymunedol, a staff cegin ar gyfer gwasanaethau gofal yn yr ardal.
Bydd y sesiwn anffurfiol yn gyfle i glywed am y cyfleodd gwaith sydd ar gael ynghyd a chael mwy o wybodaeth am gyfleon hyfforddiant a datblygiad personol. Cynhelir y digwyddiad fel rhan o ymdrechion parhaus Cyngor Gwynedd i gryfhau gwasanaethau gofal lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, aeold y cabinet dros wasanaethau cymdeithasol oedolion: "Ydych chi'n garedig, yn empathetig ac yn barod i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Efallai mai swydd yn y sector gofal yw'r cam nesaf yn eich gyrfa."
"Does dim angen profiad blaenorol – rydym yn cynnig hyfforddiant llawn, cyfleoedd dysgu parhaus, a mynediad at becyn buddion cyflogaeth y cyngor.".
"Dewch draw i ddysgu mwy, cwrdd â'r tîm am sgwrs anffurfiol ac i ffeindio allan sut mae gwneud cais am swydd yn y sector holl-bwysig yma."
Mae'r digwyddiad yn agored i bobl o bob oed a phrofiad – yn amgueddfa Storiel ym Bangor ar ddydd Mawrth 16 Medi rhwng 10yb a 5yp.